Rydyn ni’n gwrando ar bobl sydd ar ddiwedd eu hoes, pwy bynnag ydyn nhw, beth bynnag fo'u salwch. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ac ymgymryd ag ymchwil o safon fydd yn gwella gofal a phrofiad cleifion a'u gofalwyr yn uniongyrchol pan fydd yr afiechyd wedi datblygu'n ddifrifol.
Lansiwyd Canolfan Ymchwil Marie Curie, Caerdydd yn 2010 a dyma'r unig ganolfan yng Nghymru sydd ar gyfer ymchwil ym maes gofal lliniarol yn benodol.
Mae ein hymchwil wedi newid bywydau pobl sy'n marw ac mewn profedigaeth.
Drwy rannu eu profiadau personol gyda ni, mae aelodau'r cyhoedd yn helpu i sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i anghenion a phryderon pobl.
Rydym yn cynnig cyngor a chymorth rhad ac am ddim i academyddion, clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.