Gweithiwch gyda ni
Rydym yn croesawu cyfleoedd i gydweithio gyda phartneriaid ac ymchwilwyr newydd.
Partneriaid llywodraeth, diwydiant a chyrff anllywodraethol
Mae'r Arsyllfa'n cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil rhanddeiliaid dŵr a defnydd tir sylweddol. Er enghraifft, rydym yn ffynhonnell cyngor polisi allweddol i Gyfoeth Naturiol Cymru am adfer o asideiddio, lliniaru, (ee. drwy ddefnyddio calch) a defnydd tir. Mae'r safleoedd Llyn Brianne yn cynrychioli'r holl ddefnyddiau allweddol o'r tir yn ucheldiroedd Cymru, yn cynnwys conwydd, tir pori defaid a choetir collddail. Maent felly yn cynnig mynegai gwerthfawr am y newid yn yr amgylchedd ehangach.
Rydym yn croesawu trafodaethau gyda phartneriaid ymchwil newydd. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Cyfleoedd hyfforddiant ymchwil
Bob blwyddyn, mae'r Arsyllfa'n cynnal nifer o brosiectau ymchwil, o israddedigion i gymrodorion ôl-ddoethurol. Mae llawer wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau uchel eu parch yn cynnwys APEM Ltd, Natural England a phrifysgolion.
Mae rhai wedi cynhyrchu papurau ymchwil Saesneg a ddyfynnwyd yn eang:
- D. C. Bradley, S. J. Ormerod (2001). Community persistence among upland stream invertebrates tracks the North Atlantic Oscillation. Journal of Animal Ecology, 70, 987-996
- I. Petersen, Z. Masters, A. G. Hildrew, S. J. Ormerod (2004). Dispersal of adult aquatic insects in catchments of differing land use. Journal of Applied Ecology, 41, 934-950
- R. A. Kowalik, D.M. Cooper, C. M. Evans & S. J. Ormerod (2007) Acid episodes retard the biological recovery of upland British streams from acidification. Global Change Biology. 13, 2439–2452.
Os oes diddordeb gennych i wneud gwaith ymchwil yn Arsyllfa Llyn Brianne, cysylltwch â ni.
Ein data
Lle'n addas, bydd data ar gael drwy'r EIDC, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), canolfan data a gynhelir gan y Ganolfan Ecoleg ac Hydroleg (CEH). Cysylltwch os hoffech ddefnyddio setiau data eraill.
Yr Athro Isabelle Durance
Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr
- durance@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)7800 774491 / +44 (0)29 2087 4484
Mae ein cyfleusterau ar gael i staff, myfyrwyr a chydweithwyr.