Defnydd tir
Mae'r defnydd tir yn Llyn Brianne yn amrywio o bori garw i goetiroedd conwydd a choll ddail. Mae ein harbrofion yn trin defnydd tir ar raddfa crynhoi gyfan, yn archwilio'r effeithiau ar organebau ac ecosystemau'r nentydd.
Ymchwil diweddar
Dyddodion glannau'r afon
Rôl sbwriel dail yn cefnogi ecosystemau'r nentydd yn sgil newid hinsawdd a defnydd tir
Cwblhaodd Marian Pye ei gradd PhD yn 2016, sef mesur y newid blynyddol yn niferoedd, amseru ac ansawdd maethol sbwriel dail mewn nentydd ar draws amrywiaeth o ddefnyddiau tir yn Llyn Brianne, (rhostiroedd, planhigfeydd conwydd, coetiroedd llydanddail). Hefyd fe wnaeth hi archwilio'r newidiadau cysylltiedig yn nhwf a chyfansoddiad creaduriaid di-asgwrn-cefn y nentydd. Mae'r canlyniadau'n dangos sut mae nentydd gyda defnydd tir amrywiol yn ymateb yn wahanol yn nhermau llif egni i amrywiad hinsoddol (e.e. stormydd a sychder).