Partneriaid a noddwyr
Mae ymchwil dŵr croyw ar safle Llyn Brianne yn elwa wrth i ni gydweithio ar arbrofion gyda chyfleusterau partner a chasglu data o safleoedd maes cysylltiedig.
Partneriaid
Rydym yn rhan o rwydwaith ymchwil ehangach yn y DU. Mae pob partner yn cynnal cyfleusterau ymchwil dŵr croyw cyfannol. Mae hyn yn galluogi arbrofion ar draws amrywiaeth o amgylchoedd dŵr croyw. Mae'r cyfleusterau partner yn cynnwys:
- Coleg Imperial Llundain a mesocosmau pwll Parc Silwood
- Prifysgol Birmingham a'i chyfleuster mesocosm nentydd
- Rhwydwaith Monitro Dyfroedd yr Uwchdiroedd, a sefydlwyd yn 1988 i nodi'r newidiadau yn ansawdd wyneb y dŵr a bioamrywiaeth dŵr croyw ar draws holl uwchdiroedd y DU
- Canolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) ac arsyllfeydd y llynnoedd
Safleoedd ymchwil nentydd ac afonydd eraill a ddefnyddir gan Brifysgol Caerdydd:
- Safloedd maes prosiect DURESS, rhwydwaith o safleoedd nentydd yr uwchdiroedd gyda data hanesyddol a data manwl diweddar cadwyni bwyd a geneteg.
- Arolwg Dŵr Asid Cymru
Noddwyr
Mae'r sefydliadau canlynol wedi cyfrannu at Arsyllfa Llyn Brianne drwy roi arian yn uniongyrchol neu drwy ddarparu adnoddau eraill (e.e. data):