Cyn-ysgol
Nodau
- Rhoi ymdeimlad cryf o ddiogelwch ar sail bodlonrwydd ac ymddiriedaeth
- Annog hunanhyder, cyflawniad a hunan-barch
- Hyrwyddo agweddau cadarnhaol at ddysgu
- Rhoi cyfleoedd i'r plentyn ryngweithio â'i gyfoedion ac oedolion
- Datblygu ymwybyddiaeth o anghenion eraill
- Annog annibyniaeth ac ymdeimlad o gyfrifoldeb
- Galluogi'r plentyn i feithrin ymdeimlad o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ei fyd
- Sbarduno ymdeimlad o werthfawrogiad
- Annog sgiliau cyfathrebu drwy bob math o fynegiant artistig
- Ysgogi annibyniaeth a meddwl yn greadigol
- Annog rhesymu
- Canolbwyntio ar hyrwyddo datblygiad iaith ar draws y cwricwlwm
Plant 3 i 5 oed sydd yn yr adran hon.
Mae ganddynt ystafell wydr fawr lle maent yn treulio cryn dipyn o'u hamser yn gweithio ar fyrddau, yn gwneud gwaith grŵp, chwarae a 'gwneud llanast' ac ati. Mae cornel cartref hefyd sy'n newid thema bob tymor e.e. cartref, siop, garej. Defnyddir ail ystafell sydd â charped ar y llawr ar gyfer amser stori, cerddoriaeth a symud, cyfrifiadur a theledu (cyfyngir ar yr amser gwylio).
Yn yr adran yma, rydym yn datblygu sgiliau hunangymorth ac annibyniaeth ym mhob ffordd bosibl. Er enghraifft, er mwyn paentio maent yn dysgu bod angen ffedog, papur, potiau paent a brwsys i wneud eu gwaith. Maent yn helpu i glirio ar ôl gorffen. Mae amser grŵp wedi'i gynllunio i gynnwys Cwricwlwm y Blynyddoedd Cynnar. Mae plant yn dechrau adnabod enwau a llythrennau. Maent yn dysgu sut i afael mewn pensil a sut i eistedd gyda'i gilydd ar gyfer amser stori, sy'n rhyngweithiol.
Gan ddefnyddio ystod o gyfarpar mathemateg a chyn-iaith wrth chwarae, mae'r plant yn adeiladu eu hyder i ddefnyddio'r offer hwn mewn sefyllfa 'go iawn'. Mae didoli yn ôl lliw, maint a siâp yn helpu eu sgiliau mathemategol.
Anogir y plant i ddefnyddio paent, clai, tywod a dŵr yn ogystal â chymryd rhan mewn unrhyw waith celf a chrefft arbennig sy'n mynd rhagddo. Byddant yn dechrau dweud wrthym beth maent yn ei wneud a sut hwyl maent yn ei chael arni h.y. dyma ffenestr fy nhŷ, dyma'r drws, ac ati.
Yn y pen draw, byddant yn gallu rhoi beth sy'n mynd trwy eu meddwl ar bapur ac adnabod beth maent yn ei baentio mewn gwirionedd. Rydym yn siarad â hwy am eu gwaith drwy ddefnyddio iaith gywir e.e. "Dweud wrtha i am dy lun". Mae cwestiynau agored yn annog datblygiad eu hiaith hefyd ac yn cryfhau diben y gweithgaredd.
Drwy eu harsylwi, rydym yn sylweddoli pryd mae ein plant yn barod i symud ymlaen i gamau dysgu pellach. Mae arsylwi rheolaidd yn gwneud yn siŵr ein bod yn cydnabod cyflawniad, yn asesu ein gwaith ein hunain ac yn nodi anghenion unigol.
Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd paratoi plant ar gyfer yr ysgol a chyflwyno Cwricwlwm y Blynyddoedd Cynnar, nid ydym yn anghofio bod plant o'r oedran yma yn dysgu mwy drwy chwarae. Mae'r staff yn annog hyn ac yn gwneud yn siŵr bod y plant yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus yn eu hamgylchedd, gan fod hynny er lles eu datblygiad cyffredinol.
Cynnig Gofal Plant Cymru
Rydyn ni'n falch ein bod nawr yn gallu darparu Cynnig Gofal Plant Cymru. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Cynnig Gofal Plant Cymru Llywodraeth Cymru.