Amdanom ni
Mae'r Meithrinfa Ysgolheigion Bach yn 43-45 Plas y Parc yn cynnig cyfleusterau sy'n gofalu am blant rhwng 10 wythnos a 5 mlwydd oed.
Mae rhagor o wybodaeth a manylion am ffioedd ar gael ar gais. Mae'r feithrinfa ar agor rhwng 8 a 6 o'r gloch, ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Gwybodaeth am pryd rydym ar gau.
Y Feithrinfa
Ar hyn o bryd, mae 64 o blant rhwng 10 wythnos a 5 oed wedi'u cofrestru o dan ein gofal. Caiff lleoedd eu dyrannu i fechgyn a merched ac mae'r ganolfan wedi'i rhannu'n adrannau sy'n briodol i oed a datblygiad y plant. Rydym yn cynnig gofal drwy gyfrwng y Saesneg a chyflwynir Cymraeg sylfaenol. Rydym yn ymdrechu i ddarparu rhywfaint o ddarpariaeth gofal drwy gyfrwng y Gymraeg lle bo hynny'n ymarferol.
Anogir rhieni i ymweld â'r feithrinfa, yn enwedig yn ystod wythnosau cyntaf y tymor newydd. Mae trefn benodol ym mhob adran (mae manylion y gweithgareddau dyddiol ar yr hysbysfyrddau). Mae pob plentyn yn cael 'gweithiwr allweddol', sef aelod o staff fydd â chyfrifoldeb arbennig dros anghenion unigol eich plentyn.
Mae prydau bwyd maethlon a chytbwys yn cael eu coginio yn y feithrinfa a'u darparu am hanner dydd. Darperir byrbrydau ganol y bore a'r prynhawn hefyd, gan olygu nad oes angen i rieni ddod â bwyd ychwanegol i'r feithrinfa. Gallwn ddarparu bwyd llysieuol ac ar gyfer anghenion dietegol eraill, a byddwn yn fwy na pharod i drafod y bwydlenni gyda chi.