Ymunwch â'n Grŵp Cynnwys Cyhoeddus a Chleifion
Os hoffech gael y cyfle i leisio'ch barn mewn ymchwil, ystyriwch ymuno â'n grŵp Ymgysylltu â Chleifion a'r Cyhoedd (PPI).
Beth mae bod yn aelod o'r PPI yn cynnwys?
Ymunwch â'n grŵp cyfeillgar o bobl sydd â phrofiad byw o'r cyflyrau yr ydym yn eu hastudio i'n helpu i ffurfio ein hymchwil
Mae enghreifftiau o'r pethau y gallwch roi cyngor i ni amdanynt yn cynnwys y ffordd orau o rannu canfyddiadau ein hymchwil gyda phobl a fyddai â diddordeb mewn clywed amdanynt, neu'r pethau hynny y dylid ymchwilio iddynt yn y dyfodol.
Fel arfer, mae ein grŵp yn cyfarfod ar-lein bob 2-3 mis, ac caiff aelodau eu talu £25 yr awr am roi o’u hamser yn y fath modd.
Pwy all ymuno?
Hoffem wahodd unrhyw un sydd â phrofiad byw o unrhyw un o'r cyflyrau a astudiwyd gan LINC. Gallech gael diagnosis o unrhyw un o'r cyflyrau hyn, neu ofalu am rywun arall sydd wedi cael diagnosis o unrhyw un o'r canlynol:
- Gorbryder
- Iselder
- Clefyd y galon
- Methiant y galon
- Wedi cael strôc
- Diabetes math 2
- Gordewdra
- Clefyd cronig yr arennau
- Dyslipidemia (lefelau uchel o fraster yn y gwaed)
Cymryd rhan
Os hoffech ymuno â'n grŵp, neu glywed mwy am yr hyn y mae hyn yn ei olygu, e-bostiwch: odonovanl@caerdydd.ac.uk