Cymryd rhan
Darganfod sut y gallwch helpu i lunio ymchwil sy'n digwydd ym Prifysgol Caerdydd.
Beth yw Cynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd yng nghyd-destun ymchwil?
Mae ymchwilwyr yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r pwysigrwydd o gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o'r cyflyrau y maent yn eu hastudio, nid yn unig yn gyfranogwyr yn yr ymchwil, ond hefyd drwy gydol y broses ymchwilio.
Yn aml iawn, caiff y term ‘Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd’ ei fynegi’n acronym, sef 'PPI'. Gan amlaf, mae pob astudiaeth ymchwil a gynhelir gan Grŵp PPI yn cynnwys pobl â phrofiad bywyd, lle maent hwythau’n rhoi cyngor i’r ymchwilwyr ar agweddau ar eu hastudiaeth.
Gall grwpiau PPI gynghori ymchwilwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd. Er enghraifft, y ffordd orau o gyfleu eu hymchwil i'r cyhoedd, sut i recriwtio cyfranogwyr, a sut i ddehongli canfyddiadau mewn ffordd ystyrlon a pherthnasol.
Drwy gynnwys unigolion sydd â phrofiad bywyd mewn ymchwil, gall hynny ddod â nifer fawr o fanteision, a helpu i oresgyn y rhwystrau rhwng ymchwilwyr a’r cyhoedd.
Darllenwch fwy am ddau o'n haelodau PPI, Shahid a Jane, isod.
Stori Shahid
Cafodd Shahid Khan ei eni yng ngorllewin Bradford. Mae wedi bod yn aelod o’r Grŵp Cynghori Ymchwil yn y Gymuned, sef Born in Bradford, ers 2017.
Mae Born in Bradford yn grŵp arbenigol sy’n cynnwys aelodau’r gymuned, ac mae’r aelodau hynny’n ymddiddori mewn cefnogi ymchwilwyr ac academyddion i lunio eu hymchwil mewn modd sy’n briodol i'r cymunedau y maent yn bwriadu astudio, yn ogystal â mewn modd sy’n gynhwysol.
Mae Shahid yn angerddol am sut mae ymchwil yn cael ei wneud ynglŷn â'r cyhoedd.
Mae’n aelod gweithgar o'r Madni Masjid lleol, ac wedi gwirfoddoli ynddi ers 1989. Mae dyletswyddau Shahid yn cynnwys gwneud penderfyniadau ynghylch rhedeg y masjid o ddydd i ddydd ac ymateb i anghenion y gymuned leol.
Mae’r mosg hefyd wedi bod ynghlwm â llawer o waith cymunedol ac yn gweithio law yn llaw â’r eglwys leol i gynnig lloches i bobl ddigartref yn ystod y gaeaf. Mae’r mosg hefyd yn trefnu digwyddiadau i godi arian yn aml, megis teithiau beic i godi arian ar gyfer Hosbis Canser Marie Curie ac Ymchwil ar Diwmor yr Ymennydd.
Stori Jane
Mae Jane Sprackman wedi cyfrannu’n gyhoeddus i ymchwil yn y Ganolfan Academaidd er Gofal Sylfaenol (CAPC), Prifysgol Bryste, ers 2019.
Cyn hyn, bu Jane yn gweithio ym Meddygfa Streamside fel Gweinyddwr Practis cyn ymddiswyddo ym mis Ebrill 2019 i ganolbwyntio ar ei theulu.
Tra'n gweithio i Streamside Surgery, Jane oedd Arweinydd Gweinyddiaeth Ymchwil a bu'n ymwneud â grwpiau ymchwil o Brifysgol Bryste. Trwy hyn, ymunodd â Grŵp Llywio CAPC ar gyfer Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd mewn ymchwil, gan benderfynu y byddai hyn yn ffordd ddelfrydol o gadw ei diddordeb mewn ymchwil ochr yn ochr â'i hymrwymiad newydd fel mam-gu.
Ar wahân i'w rôl yn y Grŵp Llywio, mae Jane wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau ymchwil yn CAPC, gan gynnwys ar ofal brys, gofal diwedd oes, a rheoli heintiau mewn cartrefi gofal.