Amdanom ni
Pan fydd rhywun yn byw gyda dau gyflwr iechyd hirdymor neu fwy ar yr un pryd fe’i gelwir yn amlafiachedd neu gyflyrau hirdymor lluosog.
Bydd llawer ohonom eisoes yn gwybod am rywun sy’n byw gydag amlafiachedd, neu hyd yn oed yn byw gyda chyflyrau iechyd lluosog ein hunain (er enghraifft, poen cronig, iselder). Mewn gwirionedd, wrth i ni heneiddio mae byw gyda chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol lluosog yn fwyfwy cyffredin.
Yn aml mae gan bobl sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor lluosog risg uchel o anabledd, lles gwaeth ac ansawdd bywyd is. Gallant hefyd fod ag anghenion gofal cymhleth sy’n anodd ac yn ddrud eu trin. O ganlyniad, mae llawer o wledydd bellach yn ystyried cyflyrau hirdymor lluosog yn her gynyddol i ddarparwyr gofal iechyd.
Gwelir math cyffredin, a difrifol, o gyflwr hirdymor lluosog rhwng anhwylderau a elwir yn gyflyrau mewnoli (fel iselder a gorbryder) a chyflyrau a elwir yn gyflyrau cardio metabolig (fel clefyd y galon a diabetes).
Ychydig a ddeallwn am sut a pham mae hyn yn digwydd. Fodd bynnag, fe wyddom fod hyn yn effeithio ar rai grwpiau mewn cymdeithas yn fwy nag eraill gan ddibynnu ar ethnigrwydd, sefyllfa economaidd-gymdeithasol a rhyw. Fe wyddom hefyd fod cyflyrau hirdymor lluosog yn tueddu i ddechrau cyn i rywun fod yn oedolyn.
Nod LINC yw nodi ffactorau risg gydol oes a gwella ein dealltwriaeth o’r ffordd y mae’r math hwn o gyflwr hirdymor lluosog yn datblygu mewn gwahanol grwpiau o bobl. Bydd hyn yn ein helpu i wella’r ddarpariaeth gofal a chyfrannu at ymyriadau cynnar neu ymyriadau wedi'u targedu i leihau risg pobl o’i ddatblygu.
Mae LINC yn brosiect cydweithredol a gynhelir rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Tachwedd 2025 sy’n cyfuno arbenigedd meddygol ac ymchwil o brifysgolion Caerdydd, Bryste, Leeds, Caerwysg a Phrifysgol y Frenhines Mary, Llundain, ynghyd â Sefydliad Wellcome Sanger ac Ysbyty Seiciatryddol Prifddinas-Ranbarth Denmarc.
Gyda chefnogaeth £3.6m o gyllid mae LINC yn un o chwe phrosiect a gyllidir drwy’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ymchwil ac Arloesedd y DU i ehangu ein gwybodaeth am y flaenoriaeth gofal iechyd hon.
Lifespan Multimorbidity Research Collaborative
Darllenwch grynodeb llawn y prosiect LINC