Myfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach
Gall myfyrwyr o’r chweched dosbarth a sefydliadau addysg uwch ddefnyddio ein llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim.
Cyn i chi ddod i ymweld
Darllenwch ein canllawiau Croeso i’r llyfrgell. Gallwch gael gwybodaeth am ein holl lyfrgelloedd a’u pynciau a’u cyfleusterau. Gwiriwch i weld a oes unrhyw gyfyngiadau ar fynediad cyn i chi gynllunio eich ymweliad.
Ymweld â'n llyfrgelloedd
Mae croeso i chi ddefnyddio ein llyfrgelloedd at ddibenion cyfeirio: gallwch bori drwy ein casgliadau yn y llyfrgelloedd, gwirio catalog y llyfrgell LibrarySearch a defnyddio’r mannau astudio. Er mwyn eich rhoi ar ben y ffordd, bydd staff y Ddesg Ymholi’n fwy na pharod i ateb eich cwestiynau.
Ymuno â'n llyfrgelloedd
Mae’n bosibl i fyfyrwyr o sefydliadau chweched dosbarth ac addysg bellach yng Nghymru fenthyg yn rhan o gynllun aelodaeth Cymunedol, gallwch chi wneud y canlynol:
- benthyg hyd at chwe eitem ar unrhyw adeg o'n casgliadau 1 wythnos, 2 wythnos a 4 wythnos o hyd.
- defnyddio’r mynediad cerdded i mewn i’r gwasanaeth eAdnoddau
Sut i ymuno
1. Llenwch adran A o’r ffurflen aelodaeth ac yna gofynnwch i aelod o staff yn eich ysgol neu’ch coleg i lenwi adran B.
Ffurflen Aelodaeth Gymunedol Myfyrwyr 6ed Dosbarth
Ffurflen aelodaeth gymunedol ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
2. Fe fydd arnoch chi angen cerdyn llyfrgell i fenthyg llyfrau ac i gael mynediad i rai o'n llyfrgelloedd. E-bostiwch y canlynol i librarymembership@caerdydd.ac.uk:
- sgan o'ch ffurflen gais wedi'i chwblhau
- sgan neu lun o'ch ID ysgol neu goleg
- llun maint pasbort (ar gyfer eich cerdyn llyfrgell Prifysgol Caerdydd)
3. Bydd staff y llyfrgell yn cysylltu â chi pan fydd eich cerdyn llyfrgell Prifysgol Caerdydd yn barod i'w gasglu: dewch â'ch ID ysgol neu goleg gyda chi pan fyddwch yn casglu eich cerdyn.
Cysylltu â ni
Aelodaeth Llyfrgell
Adnoddau defnyddiol
Adnoddau Prifysgol Caerdydd
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol wedi creu nifer o adnoddau ar-lein ar gyfer astudio ar eich pen eich hun. Mae’r tiwtorialau canlynol yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer rhaglenni Bagloriaeth Cymru, EPQ ac Addysg Uwch.
- Dod o hyd i wybodaeth o safon uchel ar-lein
- Asesu ansawdd eich ffynonellau
- Darllen eich ffynonellau’n feirniadol
- Osgoi llên-ladrad: Dyfynnu a chyfeirnodi
- Cyfeirnodi Harvard Caerdydd
Adnoddau sydd ar gael yn rhwydd
Cyfeiriadur Llyfrau Mynediad Agored – mae'r cyfeiriadur hwn sydd wedi'i guradu gan y gymuned yn darparu mynediad at lyfrau mynediad agored ysgolheigaidd, a adolygir gan gymheiriaid, ac yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i gyhoeddwyr llyfrau mynediad agored dibynadwy.
Cyfeirlyfr o Gyfnodolion Mynediad Agored – mae'r cyfeirlyfr hwn, sy'n cael ei guradu'n gymunedol, yn cynnig mynediad at gyfnodolion o safon uchel, â mynediad agored ac wedi'u hadolygu gan gymheiriaid.
Mynediad at Ymchwil – Mynediad galw heibio, rhad ac am ddim at dros 15 miliwn o erthyglau academaidd, ar gael o unrhyw lyfrgell yn y DU sy'n rhan o'r cynllun. Cewch fynediad at nifer o bapurau academaidd gorau'r byd a gallwch ddefnyddio'r gronfa ddata i ddod o hyd i lyfrgell sy'n agos i chi, lle allwch weld y testun yn ei gyfanrwydd.