Mynediad galw heibio at adnoddau electronig
Mae ein hadnoddau electronig ar gael ar gyfer y cyhoedd yn ogystal â staff a myfyrwyr ymweliadol drwy gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ‘mynediad galw heibio at adnoddau electronig’.
Mae’r gwasanaeth ar gael ar derfynellau penodol yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, Llyfrgell Bute, Llyfrgell Iechyd, Llyfrgell Gwyddoniaeth, a Llyfrgell Trevithick. Gwiriwch y trefniadau mynediad ar gyfer pob llyfrgell ar ei thudalen leoliad.
Cofrestrwch ar gyfer mynediad galw heibio
Mae'n rhaid i chi gofrestru yn un o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd bob tro y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth. I gofrestru, dewch ag un o'r mathau canlynol o brofion adnabod addas:
- cerdyn llyfrgell cyfredol aelod cyswllt o Brifysgol Caerdydd
- pasbort / cerdyn adnabod cenedlaethol yr UE
- trwydded yrru y Deyrnas Unedig
- cerdyn credyd neu ddebyd cyfredol
- bill cyfleustodau
- cerdyn neu lyfr budd-daliadau
- datganiad banc neu gerdyn credyd
- cerdyn adnabod myfyriwr neu gerdyn NUS
Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Ar y diwrnod pan fyddwch yn bwriadu ymweld, rydym yn argymell eich bod yn ffonio un o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd i gael gwybod beth sydd ar gael.
Cewch wybod beth ydym yn ei wneud gyda gwybodaeth bersonol yn hysbysiad preifatrwydd gwasanaethau’r Llyfrgelloedd.
Defnyddio’r adnoddau electronig
Ar ôl i chi gofrestru, bydd un o aelodau staff y llyfrgell yn eich mewngofnodi i’r gwasanaeth mynediad galw heibio ar un o’n terfynellau penodol i gyfrifiaduron:
- wedyn dylech allu gweld y dudalen Croeso/Welcome
- Cliciwch ar y tab Adnoddau/Resources i gael mynediad at yr holl adnoddau sydd ar gael.
Cofiwch y gallwch chwilio am gynnwys oddi mewn i adnoddau unigol yn unig, nid ar draws y gwasanaeth cyfan
Cofiwch, os gwelwch yn dda:
- i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, rhaid i chi gydymffurfio â’r rheoliadau hawlfraint a’n telerau ac amodau
- dim ond drwy un o'r terfynellau cyfrifiadurol pwrpasol yn y llyfrgelloedd sy'n rhan o’r gwasanaeth hwn y cewch fynediad i eAdnoddau
- gallwch chwilio oddi mewn i bob adnodd, ond nid ydym yn tanysgrifio i’r holl gynnwys ym mhob adnodd
- gellir tynnu mynediad i adnoddau penodol, neu fynediad at y gwasanaeth yn gyffredinol, yn ôl ar unrhyw adeg
Ni chewch wneud y canlynol:
- defnyddio'r gwasanaeth at ddibenion masnachol neu fusnes
- e-bostio neu gadw canlyniadau unrhyw chwiliadau neu erthyglau
- cyrchu unrhyw safleoedd, meddalwedd neu gymwysiadau (megis Microsoft Office neu e-bost) sydd y tu allan i'r gwasanaeth hwn o’r derfynell hon
Yr adnoddau electronig sydd ar gael
Rydym yn cynnig mynediad galw heibio at lawer o wahanol adnoddau i’r cyhoedd yn ogystal â staff a myfyrwyr ymweliadol. Mae hyn yn cynnwys adnoddau sy’n ymwneud ag ystod o feysydd pwnc (e.e. cronfeydd data Ebscohost, Proquest a JSTOR, SCOPUS, ScienceDirect) yn ogystal ag adnoddau sy’n trafod pynciau mwy penodol (e.e. Cyfnodolion, Llyfrau a Chronfeydd Data y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Papurau Seneddol y DU).
Yma gallwch gael mynediad at restr lawn o adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd drwy'r gwasanaeth mynediad galw heibio.
Mae ein gwasanaeth sgwrsio llyfrgell ar gael o 9am-5pm, Llun i Gwener. Rydym hefyd yn cynnig y gwasanaeth y tu hwnt i'r oriau hyn lle'n bosibl.