Cefnogaeth i ddefnyddwyr anabl
Rydym yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth i alluogi defnyddwyr anabl ac ymwelwyr i gael mynediad i’n llyfrgelloedd a manteision o’n gwasanaethau.
Mae ein staff wrth law i ddarparu cymorth a chyngor wrth i chi ddefnyddio ein gwasanaethau llyfrgell.
Gwneud trefniadau unigol
Rydym yn gweithio’n agos â Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia’r Brifysgol i sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion ein defnyddwyr, yn enwedig y rheiny sydd â gofynion penodol wedi’u datgelu
Os ydych yn ymweld â Llyfrgelloedd y Brifysgol a hoffech drafod yn gyfrinachol sut gallwn eich galluogi chi i gael mynediad i’n casgliadau a chyfleusterau, cysylltwch â’ch llyfrgell cyn eich ymweliad.
Benthyciadau a chasglu llyfrau
Gallwch wneud cais am lyfrau ar LibrarySearch a dewiswch Lyfrgell y Brifysgol sydd mwyaf cyfleus i chi i’w casglu.
Pan fyddwch yn benthyca eitemau o'r llyfrgell, byddwch yn cael dyddiad dychwelyd ar gyfer y llyfrau. Bydd rhan fwyaf o lyfrau yn adnewyddu’n awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca, os nad oes ceisiadau ar yr eitemau gan rywun arall.
Gall fod hawl i staff a myfyrwyr gydag anableddau neu ddyslecsia gael benthyciadau estynedig.
Gallwn hefyd eich cynorthwyo i ddod o hyd i lyfrau a’u nôl, a threfnu bod deunydd y llyfrgell yn cael ei anfon i’ch cartref. Os ydych yn cael anawsterau wrth ymweld â llyfrgell y Brifysgol, gallwch awdurdodi ffrind neu berthynas i gasglu llyfrau ar eich rhan. Cysylltwch â’ch llyfrgell am ragor o fanylion.
Meddalwedd
Mae aelodau o Brifysgol Caerdydd yn gallu cael mynediad at amrywiaeth o feddalwedd cynorthwyo dros rwydwaith y Brifysgol, gan gynnwys TextHelp, meddalwedd testun i'r llais, darllenydd sgrin Supernova a meddalwedd chwyddo sgrin, a MindView meddalwedd mapio meddwl.
Offer
Gall bob ymwelydd gael mynediad at offer cynorthwyol i helpu wrth ddefnyddio’r llyfrgelloedd. Maent yn cynnwys bysellfyrddau a llygod arbenigol, chwyddwydrau cludadwy, desgiau y gellir addasu eu huchder a chadeiriau ergonomig. Gall argaeledd ddibynnu ar y llyfrgell rydych yn dymuno ei defnyddio, cysylltwch â’ch llyfrgell am ragor o wybodaeth.
Sganio a fformatau eraill
Gallwn ddarparu deunydd llyfrgell mewn fformatau eraill, gan gynnwys Braille, neu ddogfennau wedi’u sganio i’w defnyddio gyda meddalwedd darllenydd sgrin. Cysylltwch â’ch llyfrgell am ragor o wybodaeth.
Ystafelloedd astudio breifat
Mae ein llyfrgelloedd yn darparu amrywiaeth o amgylcheddau astudio, gan gynnwys ystafelloedd astudio y gellir eu cadw (ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd) ac ardaloedd astudio tawel neu ddistaw.
Cyngor pellach
Gallwch gysylltu â phob llyfrgell yn uniongyrchol i gael cymorth ac arweiniad ar unwaith.
Gallwch hefyd gysylltu â’r prif gynrychiolydd anabledd llyfrgell am ragor o wybodaeth: