Dyfarniadau Addysgol yn Sierra Leone
Dechreuodd ein partneriaeth gyda Phrifysgol Sierra Leone yn 1999. Sefydlwyd cronfa addysgol yn 2001 i gefnogi plant ysgol yn y brifddinas, Freetown.
Er bod gan bob plentyn yn Sierra Leone hawl bellach i addysg am ddim mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, mae’n rhaid i deuluoedd ddarparu gwisg ysgol, bagiau, esgidiau, tocyn teithio a chinio i’w plant/wardiau.
Mae hyn yn golygu nad yw teuluoedd yn gallu fforddio anfon eu plant i’r ysgol. Dim ond un o bob pum plentyn sy’n cael y cyfle ar hyn o bryd i gwblhau ei addysg yn yr ysgol uwchradd, yn enwedig gyda’r gyfradd chwyddiant uchel yn y wlad. Mae’r gwobrau addysgol hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae’r gwobrau’n mynd yn uniongyrchol i’r teuluoedd gyda phob myfyriwr yn derbyn hyd at £40, yn ddibynnol ar y flwyddyn astudio. Mae gwobrau’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer plant sydd wedi cwblhau eu haddysg gynradd mewn ysgol a ariennir gan y wladwriaeth ac na fyddant fel arall o bosib yn cael y cyfle i fynychu neu gwblhau addysg yn yr ysgol uwchradd.
Sylwer: Mae Esther eisiau datblygu ei haddysg drwy ymrestru â Phrifysgol Feddygol i astudio meddygaeth a dod yn Feddyg.
Cofrestrwyd y gronfa fel Gwobrau Addysg yn Sierra Leone (EASL) gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn 2010.
Digwyddiadau
Ein nod yw trefnu digwyddiadau codi arian bob blwyddyn i godi arian ar gyfer EASL a byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw un sydd ag awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau, neu gynigion i helpu gyda nhw.
Rhoi
Croesewir rhoddion unrhyw bryd drwy DonorBox.
Os nad ydych yn aelod o restr bostio’r cefnogwyr ac rydych yn awyddus i ymuno, rhowch wybod i ni. Hoffem anfon newyddion i chi am ddigwyddiadau sydd ar y gweill a’r myfyrwyr rydych yn eu cefnogi.
Cysylltwch â ni
Alison Weightman
Cefnogwch ein gwaith drwy DonorBox.