Ein strategaeth
Mae ein llyfrgelloedd a'n harchifau yn rhan annatod o greu a rhannu mynediad at wybodaeth ddibynadwy.
Mae ein hadnoddau gwybodaeth, ein gwasanaethau, ein staff, a’n hystafelloedd ac ardaloedd yn hanfodol i lwyddiant myfyrwyr a llwyddiant academaidd. Maent yn sylfaen i’r cwricwlwm, yn cefnogi ymchwil byd-eang yng nghyd-destun Cymru, ac yn creu ymdeimlad o berthyn i gymuned ysgolheictod.
Rydym yn gwneud hyn drwy:
- Alluogi ein cymunedau drwy ddatblygu eu llythrennedd o ran gwybodaeth, fel y gallant ymgysylltu’n feirniadol â gwybodaeth yn ddinasyddion byd-eang gwybodus. Cyd-greu gyda'n cymunedau i ddeall a darparu yn unol â’u hanghenion.
- Partneru yn y gwaith o greu a rhannu ymchwil ac o ran ei heffaith: hyrwyddo diwylliant ymchwil cynhwysol trwy fynediad agored, data ymchwil agored, ysgolheictod digidol, allgymorth, mynediad at ein hadnoddau gwybodaeth cyfoethog, a churadu’r rhain.
- Rheoli a churadu cof sefydliadol a chofnodion allweddol y brifysgol. Sicrhau bod ein casgliadau a’n harchifau unigryw yn ddiogel, eu bod yn gallu cael eu canfod, eu bod yn weladwy ac yn cael eu dathlu.
- Hwyluso ymchwil ac addysgu clinigol drwy ddarparu gwasanaethau i GIG Cymru.
- Dileu rhwystrau o ran cymunedau; cynnig porth croesawgar a chyfeillgar i'r brifysgol, Caerdydd, a Chymru.
Yr hyn sy’n ein diffinio?
Mae ein hegwyddorion o fod yn agored, chwilfrydedd, rhoi’r gallu yn nwylo eraill, meithrin ymdeimlad o berthyn, cynhwysiant, gweithio’n rhan o bartneriaeth, creadigrwydd, hyblygrwydd, a chynaliadwyedd amgylcheddol yn ein diffinio ni.