One Man’s Medicine: An Autobiography of Professor Archie Cochrane
I ddathlu canmlwyddiant genedigaeth yr Athro Archie Cochrane, mae’r Brifysgol wedi cyhoeddi fersiwn arbennig o ‘One Man’s Medicine: An Autobiography of Professor Archie Cochrane’ by Archibald L. Cochrane with Max Blythe.
Yn ‘One Man’s Medicine’, mae’r Athro Cochrane (1909-1988) yn cofio sut y bu i ddigwyddiadau a phrofiadau yn Rhyfel Gartref Sbaen ac mewn gwersyllfaoedd carcharorion rhyfel o’r Almaen, ymhlith eraill, ei arwain i gwestiynu agweddau meddygol traddodiadol a hyrwyddo dull gwerthusol, yn seiliedig ar dystiolaeth tuag o ran meddygaeth a gofal iechyd,
Yn bigyn yn ochr y sefydliad meddygol, mae epidemiolegwr arloesol, academwr, bardd, teithiwr, casglwr celf a lletywr hwyliog yn rhai agweddau’n unig ar fywyd diddorol a dylanwadol sy’n cael ei gofio yn ‘One Man’s Medicine’ ac sydd bellach ar gael, am y tro cyntaf, mewn clawr meddal.
Gofyn am lyfr
Gallwch ofyn am gopi o hunangofiant yr Athro Cochrane yn uniongyrchol o lyfrgelloedd y Brifysgol. Er mwyn archebu eich copi, llenwch y ffurflen archebu.
- Cyhoeddiad Mai 2009
- 303 tudalen, 14 plât, 16 ffigwr
- ISBN: 978-0-9540884-3-9
- Yn cynnwys y Rhagair gwreiddiol gan Syr Richard Doll CH FRS a deunydd ychwanegol gan Syr Richard Peto FRS a Syr Iain Chalmers
Mae Llyfrgell Archie Cochrane, sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Prifysgol Llandochau, yn gartref i Archif Cochrane - cofnod cynhwysfawr o fywyd, gwaith a chyflawniadau’r Athro Cochrane.
Mae gennym gasgliadau o ddogfennau hanesyddol sy'n dyddio'n ôl i'r 14g.