Llyfrgell Iechyd
Mae’r Llyfrgell Iechyd wedi’i leoli yn Adeilad Cochrane ac yn cynnwys casgliadau am nyrsio, bydwreigiaeth, iechyd perthynol, meddygaeth, gwyddorau meddygol a biolegol.
View Llyfrgell Iechyd on Google MapsOriau agor
Dydd Llun – Dydd Gwener: 08:30 – 19:00
Dydd Sadwrn: 10:00 – 17:30
Dydd Sul: heb staff
Oriau agor gwyliau'r Nadolig
Mae Llyfrgell Iechyd ar agor 24/7 dros y Nadolig. Bydd y Ddesg Ymholiadau yn cael ei staffio tan 16:00 dydd Gwener 20 Rhagfyr.
Rhwng 16:00 dydd Gwener 20 Rhagfyr a 08:30 dydd Iau 2 Ionawr, mae mynediad drwy gerdyn adnabod yn unig.
Defnyddiwch ddrws y De yn Adeilad Cochrane (i'r dde wrth ichi gyrraedd yr adeilad). Gallwch chi gael mynediad i’r adeilad gan sganio eich cerdyn llyfrgell, neu byddwn ni’n gofyn ichi ddangos cerdyn adnabod cyfredol y GIG.
Dydd Llun | 24 awr |
Dydd Mawrth | 24 awr |
Dydd Mercher | 24 awr |
Dydd Iau | 24 awr |
Dydd Gwener | 24 awr |
Dydd Sadwrn | 24 awr |
Dydd Sul | 24 awr |
Mae’r oriau agor hyn ar gyfer yr wythnos gyfredol.
Amdanom ni
Mae’r Llyfrgell Iechyd wedi ei lleoli ar lawr gwaelod, llawr cyntaf ac ail lawr Adeilad Cochrane ar gampws Parc y Mynydd Bychan Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC).
Mae gwybodaeth am wasanaethau llyfrgell i weithwyr BIPCAF ar gael ar dudalen we gwasanaethau llyfrgell BIPCAF
Mae hyfforddiant sgiliau llyfrgell ar gael i staff a myfyrwyr mewn pynciau Biofeddygol a Bywyd hefyd ar gael yn y llyfrgell.
Gallwch gysylltu â llyfrgellydd pwnc os oes gennych gwestiwn pwnc-benodol, neu defnyddiwch ein manylion cyswllt cyffredinol ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill.
Llawr Gwaelod | Desg ymholiadau'r llyfrgell Mannau astudio |
---|---|
Llawr Cyntaf | Llyfrau a chyfnodolion Cyfrifiaduron mynediad-agored Benthyciadau gliniaduron |
Ail Lawr | Ardal Astudiaeth distaw Ystafelloedd astudio Cyfrifiaduron mynediad-agored Cyfrifiaduron y GIG Ystafelloedd astudio'r GIG 2.34 a 2.35 |
Gwasanaethau a chyfleusterau
Rydyn ni’n cynnig y gwasanaethau a’r cyfleusterau canlynol er hwylustod ichi, ac i gefnogi eich anghenion astudio:
- Toiledau (dynion, menywod, a hygyrch)
- Ffynhonnau Dŵr a lle dŵr poeth
- Peiriannau gwerthu bwyd a diod
- Loceri storio
- Gliniaduron at ddefnydd myfyrwyr a BIPCAF, clustffonau, ceblau gwefru, citiau ysgrifennu ar y bwrdd gwyn a chyfrifianellau, y cyfan yn fenthyciadwy
- Lle cyfnewid ffuglen
- Lle ymlacio at ddibenion lles
- Gall holl staff GIG Cymru ymuno â'r llyfrgell yma o dan un o'n cynlluniau aelodaeth.
Mynediad
Llun – Gwener hyd at 18.00: defnyddiwch y prif ddrysau a'r drysau ochr ar y llawr gwaelod. Ar ôl 18:00 tan 07:00: defnyddiwch y drws ochr yn unig a bydd angen cerdyn adnabod llyfrgell Prifysgol Caerdydd (cerdyn sweipio), neu gofynnir i chi ddangos eich cerdyn adnabod GIG i gael mynediad.
Dydd Sadwrn a dydd Sul: drws ochr y llyfrgell yn unig;
Ar ôl 18:00 tan 07:00: bydd angen cerdyn adnabod llyfrgell Prifysgol Caerdydd arnoch (cerdyn sweipio), neu gofynnir i chi ddangos eich cerdyn adnabod GIG i gael mynediad.
- Mae lifft yn sicrhau mynediad i holl loriau’r llyfrgell.
- Mae toiled hygyrch ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.
- Fe wnaiff staff estyn llyfrau ar eich cyfer oddi ar y silffoedd - gofynnwch am gymorth
Ymholiadau Llyfrgell Iechyd
- healthlibrary@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8137
- Blog
- cardiffunilib
Lleoliad Llyfrgell
Adeilad Cochrane
Gwaelod, 1af ac 2il
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4YU
Llyfrgellwyr pwnc
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd
Yn cynnwys Biowyddorau, Deintyddiaeth, Gwyddorau Gofal Iechyd and Meddygaeth
- BLSLibrarians@caerdydd.ac.uk
- Telephone:
Gwasanaethau llyfrgell BIPCAF
- cochraneliby@cardiff.ac.uk
- Telephone:+44 (0)29 2071 6255