Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgell Sgwâr Canolog

Mae Llyfrgell y Sgwâr Canolog yn cadw adnoddau ar gyfer yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.

View Llyfrgell Sgwâr Canolog on Google Maps

Oriau agor

Oriau agor gwyliau'r Nadolig
21 Rhagfyr-1 Ionawr: Ar gau
O 2 Ionawr: Oriau agor semester arferol
Dydd Llun 08:00 - 17:00
Dydd Mawrth 08:00 - 17:00
Dydd Mercher 08:00 - 17:00
Dydd Iau 08:00 - 17:00
Dydd Gwener 08:00 - 17:00
Dydd Sadwrn Ar gau
Dydd Sul Ar gau

Mae’r oriau agor hyn ar gyfer yr wythnos gyfredol. Gweld amseroedd agor ar gyfer 2024-25

Amdanom ni

Mae Llyfrgell y Sgwâr Canolog ar gael ar gyfer staff a myfyrwyr yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn unig gan fod perchnogion yr adeilad wedi cyfyngu ar fynediad i’r adeilad.
Gall pob aelod arall o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd wneud cais am eitemau o Lyfrgell Sgwâr Canolog drwy ddefnyddio Chwilio’r Llyfrgell (LibrarySearch) a’i gasglu o unrhyw un o lyfrgelloedd y Brifysgol. Gall unrhyw eitem gael ei chasglu neu ei dychwelyd i dderbynfa’r Sgwâr Ganolog yn ystod yr oriau pan mae staff yn gweithio yno (08:00-18:00 ddydd Llun i ddydd Gwener).

Mae Llyfrgell y Sgwâr Canolog ar y llawr gwaelod, llawr y mesanîn a llawr cyntaf yr adeilad.

Gwyliwch ein canllaw fideo byr dan arweiniad myfyrwyr i Llyfrgell Sgwâr Canolog ym Mhrifysgol Caerdydd.

Llawr gwaelodMan astudio tawel, terfynell benthyg hunan-wasanaeth.
Llawr mesanînCyfnodolion a DVDs. Y Casgliad Lles 3 mis o bob papur newydd dalen lydan a thabloid a gyhoeddir yn y DU yn ogystal â'r Echo a'r Western Mail.
Llawr cyntaf

Casgliadau llyfrau / monograffau, terfynell benthyg hunan-wasanaeth, traethodau hir, desg ymholiadau'r llyfrgell, chyfrifiaduron mynediad agored a benthyciadau gliniaduron.

Gwasanaethau a chyfleusterau

Yn yr adeilad, rydyn ni’n cynnig y gwasanaethau a’r cyfleusterau canlynol er hwylustod ichi, ac i gefnogi eich anghenion astudio:-

  • Toiledau (dynion, menywod, rhywedd-niwtral a hygyrch)
  • Ffynhonnau dŵr a mannau dŵr poeth
  • Peiriannau gwerthu bwyd a diod
  • Loceri storio
  • Gliniaduron at ddefnydd myfyrwyr, clustffonau, ceblau gwefru a chitiau ysgrifennu ar y bwrdd gwyn, y cyfan yn fenthycadwy
  • Lle cyfnewid ffuglen
  • Lle ymlacio at ddibenion lles

Mynediad

Mae Llyfrgell y Sgwâr Canolog ar gael ar gyfer staff a myfyrwyr yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn unig.

  • mae toiledau hygyrch ar bob llawr yn yr adeilad
  • mae ramp i'r lifft ar ochr chwith desg y dderbynfa

Llyfrgell Sgwâr Canolog

Email
CentralSquareLiby@Cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0928
twitter no background icon
cardiffunilib

Lleoliad Llyfrgell

Sgwâr Canolog
Caerdydd
CF10 1FS


Llyfrgellwyr pwnc

Andrew Blackmore

Llyfrgellydd Pwnc (Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant / Addysg Barhaus a Phroffesiynol)

Hygyrchedd

Canllaw AccessAble: Llyfrgell Sgwâr Canolog

Mae canllawiau hygyrchedd AccessAble yn cynnwys ffeithiau, ffigyrau, a ffotograffau i helpu myfyrwyr, ymwelwyr a staff i gynllunio eu taith i'r brifysgol ac o amgylch y brifysgol.