Rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy'n gyfeillgar, yn cynorthwyo ac yn ymateb i'ch anghenion.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid yn rhan annatod o Wasanaeth Llyfrgell y Brifysgol a rydym ni'n falch ein bod yn meddu ar y safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid. Rydym ni'n ymrwymo i wella gwasanaeth cwsmeriaid yn barhaus.
Addewid gwasanaeth cwsmeriaid
Mae ein haddewid gwasanaeth cwsmer yn nodi'n fanylach yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y llyfrgelloedd.
Byddwn ni'n:
- cynnig lleoedd astudio croesawgar, diogel, cyfforddus a hygyrch ym mhob un o'n llyfrgelloedd a mannau gwasanaeth
- cynnig adnoddau o safon i ddiwallu eich anghenion dysgu, addysgu ac ymchwil, a gwneud yn siŵr eich bod yn gallu eu defnyddio mor hawdd â phosibl
- gwneud yn siŵr bod ein staff yn gyfeillgar, gwybodus, ac wedi eu hyfforddi'n dda, ac yn trin ein defnyddwyr â chwrteisi a pharch
- rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddefnyddio adnoddau ac archif llyfrgell yn effeithiol yn gyfrifol ac yn annibynnol
- gwneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio’n bennaf ar eich anghenion chi wrth ystyried gwelliannau i wasanaethau'r llyfrgell ac archif
- gwrando ar eich adborth a'i werthfawrogi, yn ogystal â chyfathrebu â chi mewn modd clir, gonest ac amserol
- cyfathrebu â phartneriaid ar draws Prifysgol Carrdydd, GIG Cymru a’r gymuned ehangach er mwyn datblygu a gwella ein gwasanaethau llyfrgell ac archif.
Rydym ni'n annog ac yn croesawu eich adborth gan y bydd hyn ein galluogi ni i wella. Gallwch rannu eich adborth drwy ymweld â'n llyfrgelloedd, neu drwy gysylltu â ni.
Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid
Rydym yn falch o fod wedi dal y safon Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid ers 2013. Ym mis Mai 2022, dyfarnwyd 13 ‘Compliance Plus’ ar ddeg i ni. Gyda chefnogaeth gan Swyddfa’r Cabinet, mae’r Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn cydnabod sefydliadau sydd wir yn rhoi eu cwsmeriaid wrth wraidd yr hyn y maen nhw’n ei wneud.
Rydym yn croesawu eich adborth am y gwasanaeth llyfrgell.