Ewch i’r prif gynnwys

Emily Ireland and Hannah Logan

Myfyrwyr Meddygol

Cyhoeddwyd 02 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen

icon1 Cydnabyddiaeth

Heriau trosglwyddo i AU mewn byd sydd dan glo

Mae'r cyflwyniad hwn o Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn tynnu sylw at ganlyniadau dwy astudiaeth ymchwil dan arweiniad Israddedigion sy’n ymchwilio i brofiadau byw myfyrwyr Blwyddyn 1 yn yr Ysgol Meddygaeth yn ystod y flwyddyn academaidd dan glo. Yn nodweddiadol, mae’r garfan o Fyfyrwyr Meddygol yn gymuned ddysgu dynn a chefnogol.

Mae'r fideo yma yn cynnwys dau fyfyriwr israddedig Meddygol yn trafod yr heriau sy’n gysylltiedig â dysgu mewn amgylchedd dan glo, yn academaidd ac yn gymdeithasol.

Cyfrannu at yr Hwb Dysgu

Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.