Rhaglenni Cyfunol
Mwy am y pwnc hwn
Mae technoleg yn rhan annatod o'n byd ni heddiw, ac o brofiadau'r mwyafrif o ddysgwyr. Mae gan dechnoleg y potensial i wella'r profiad dysgu, ei wneud yn fwy rhyngweithiol, hwyluso dysgu sy'n seiliedig ar ymchwiliadau a rhoi gwahanol ffyrdd i fyfyrwyr o weld pwnc a chael gafael ar ddeunyddiau. Mae Dysgu Cyfunol yn adnodd pwerus i'r addysgwr, yn enwedig mewn addysg uwch. Dyma lle cyfunir technoleg a dulliau traddodiadol o ddysgu. Gall Dysgu Cyfunol gynnwys amrywiaeth o ddulliau, megis:
- Integreiddio technoleg i ddysgu didactig, i gynyddu ymgysylltiad neu gyfleu gwybodaeth mewn ffordd fwy ystyrlon neu bwerus;
- Defnyddio technoleg i gefnogi sut mae myfyrwyr yn cwestiynu neu'n chwilio am wybodaeth yn y dosbarth;
- Defnyddio llwyfannau meddalwedd i hwyluso cyfathrebu, naill ai yn y dosbarth neu y tu allan iddi;
- Defnyddio technoleg i alluogi myfyrwyr i ystyried problem o wahanol safbwyntiau;
- Datblygu Sgiliau Llythrennedd Digidol a gwerthfawrogi sut y gellir defnyddio technoleg fel adnodd i gefnogi dysgu.
Mae defnyddio Dysgu Cyfunol yn gallu bod yn heriol i fyfyrwyr a staff academaidd os nad ydynt yn gyfarwydd â defnyddio technolegau wrth ddeall sut i'w defnyddio ac at ba ddiben. Nod yr adran hon o'r Ganolfan Dysgu yw rhoi enghreifftiau ymarferol o sut y gellir defnyddio technoleg i ehangu'r profiad dysgu, ei gyfoethogi a'i wneud yn ddyfnach, yn haws ac yn fwy effeithiol.
Astudiaethau achos
A-Z o Technoleg Dysgu
Allan Theophanides
Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 8 munud o ddarllen
Pecha Kucha estynedig yw’r AZ o TD ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021, sy’n cyflwyno 26 o awgrymiadau ac offer Technoleg Dysgu/Addysg Ddigidol i helpu gyda chynllunio llwyth gwaith, addysgu neu wella profiad dysgu digidol myfyrwyr.
Pynciau
Ways of learning | Digital & Information Literacy | Designing for distance learners | Flipping the classroom | Delivering blended programmes |Blended Learning with Languages for All - Student Video Case Study
Shawnee Futers
Cyhoeddwyd 20 Apr 2017 • 6 munud o ddarllen
Undergraduate student, Shawnee Futers explains how she benefited from the opportunity to study Italian through blended learning with the Languages for All Programme
Pynciau
Delivering blended programmesImproving the Learning Central experience
Christopher John
Cyhoeddwyd 06 Apr 2017 • 5 munud o ddarllen
Improving the Learning Central experience for Welsh language users and providing access to online learning materials without internet access
Pynciau
Ways of learning | Designing for distance learners | Delivering blended programmes |Adeiladu profiad dysgu cysylltiedig ar-lein
Arrendeep Gill and Rachel Barker
Cyhoeddwyd 21 Jul 2021 • 7 munud o ddarllen
Mae’r cyflwyniad Pecha Kucha o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn trafod athrawon yn hwyluso cysylltiad rhwng dysgwyr er mwyn creu amgylcheddau dysgu pwrpasol.
Pynciau
Ways of learning | Designing for distance learners | Delivering blended programmes | Facilitating group work |COVID -19 a Gofal Diwedd Oes: Storfa Xerte
Claire Job
Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen
Mae’r cyflwyniad yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn adrodd ar ddatblygu stordy Xerte i alluogi myfyrwyr i gael mynediad at un adnodd i gael gwybodaeth hanfodol i gefnogi pobl oedd yn marw gyda COVID-19.
Pynciau
Delivering blended programmes | Supporting Placement Learning |Lleihau pellter trwy addysgu ac asesu rhyngweithiol
Dr Katja Umla-Runge, Sian Edney, Dr Athanasios Hassoulas
Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen
Mae’r cyflwyniad yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn trafod yr amrywiaeth o asesu maent wedi dylunio i feithrin cydweithredu ac ymgysylltu â myfyrwyr a sesiynau addysgu rhyngweithiol newydd ar y rhaglen MSc Seiciatreg.
Pynciau
Ways of learning | Designing for distance learners | Engaging with student feedback | Delivering blended programmes | Assessment design |Cyfrannu at yr Hwb Dysgu
Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.