Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth broffesiynol

Mwy am y pwnc hwn

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymedig i roi profiadau dysgu rhagorol i’w myfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod darpariaeth o’r fath yn deillio o staff brwdfrydig yn rhannu eu gwybodaeth a’u sgiliau disgyblaethol yn seiliedig ar ddulliau addysgeg effeithiol. Er mwyn cefnogi’r uchelgais hon, mae’r Brifysgol yn cynorthwyo aelodau unigol o staff drwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau ysgoloriaeth y gallant eu defnyddio i ddatblygu eu dealltwriaeth o addysgeg a’u harferion addysgu. Mae pwysigrwydd y gweithgareddau hyn wedi’i gydnabod ym model llwyth gwaith y Brifysgol ar gyfer aelodau o staff academaidd, sy’n cynnwys dyraniad ar gyfer datblygiad o’r fath.

Yn sail i’r gweithgareddau hyn mae’r gred fod mabwysiadu model arfer myfyriol yn helpu pob aelod o staff addysgu i wneud y gorau o weithgareddau ysgoloriaeth ac felly sicrhau datblygiad dilynol dysgu ac addysgu.  Mae gofyn i bob aelod o staff, felly, gynnal adolygiad cymheiriaid o ddysgu ac addysgu bob blwyddyn.

Cydnabyddir mai unigolion sydd yn y sefyllfa orau i nodi unrhyw anghenion datblygu. Fodd bynnag, yn ogystal â chefnogi cyfleoedd allanol, cynigir amrywiaeth o weithgareddau ffurfiol ac anffurfiol ar lefel Ysgol, Coleg a Phrifysgol. Mae’r Ganolfan Arloesedd Addysg hefyd yn gweithio i greu cymunedau o arfer addysgeg a chyfleoedd ariannu i’w cefnogi drwy ddigwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r adran hon yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch yr amrywiaeth lawn o weithgareddau, gan gynnwys gwybodaeth am gyfleoedd am gydnabyddiaeth broffesiynol allanol o ddysgu ac addysgu, fel yr Academi Addysg Uwch.


Astudiaethau achos

Croeso i LinkedIn Learning!

Bex Ferriday

Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 7 munud o ddarllen

Mae’r cyflwyniad Pecha Kucha yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn darparu gwibdaith o amgylch LinkedIn Learning, yn dangos sut y gellir curadu cynnwys i chi, eich myfyrwyr, neu dimau proffesiynol, ac mae’n cynnwys golwg ar bersbectif y


Pynciau

Professional Recognition | Pathways & Promotions | Peer Reviews | Self-reflection |

7 cydnabyddiaeth

Annog straeon UKPSF: cefnogi cyflawniad staff trwy fentora ar-lein

Dr Jo Smedley

Cyhoeddwyd 21 Jul 2021 • 15 munud o ddarllen

Mae'r cyflwyniad hwn yn Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn rhannu profiadau mentorion a mentoreion o’r garfan fentora SFHEA ar-lein gyntaf o bob rhan o’r Brifysgol a gynhaliwyd rhwng Rhagfyr 2020 - Mawrth 2021.


Pynciau

Professional Recognition

1 cydnabyddiaeth

Cyfrannu at yr Hwb Dysgu

Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.