Ewch i’r prif gynnwys

Adolygiad Cymheiriaid

Mwy am y pwnc hwn

Mae Adolygiad Dysgu ac Addysgu Cymheiriaid (PRLT) yn ofyniad blynyddol i holl staff Prifysgol Caerdydd sydd â dyletswyddau dysgu ac addysgu sylweddol.

Mae PRLT, sy’n agwedd allweddol ar ddatblygiad proffesiynol, yn seiliedig ar gylch dysgu parhaus o fyfyrio, datblygu a gwella. Mae’n hanfodol bod PRLT yn cael ei gydnabod fel proses gefnogol sydd o fudd i’r adolygwr a’r adolygai fel ei gilydd; gyda thrafodaeth adeiladol yn lledaenu arfer gorau ac yn annog mwy o welliannau yn seiliedig ar dystiolaeth.

Diben PRLT yw bod yn broses hyblyg sy’n myfyrio ar yr amrywiaeth lawn o weithgareddau dysgu ac addysgu. Mae hyn yn cynnwys:

  • Arsylwadau yn yr ystafell ddosbarth;
  • Datblygu meini prawf asesu;
  • Dylunio maes llafur cynhwysol; Cynnig adborth effeithiol;
  • Ayyb.

Mae’r adran hon yn cynnig dewis o adnoddau i gefnogi gweithgareddau adolygu cymheiriaid, yn ogystal ag enghreifftiau o sut mae modelau amrywiol wedi’u gweithredu ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar draws sefydliadau eraill.


Astudiaethau achos

Croeso i LinkedIn Learning!

Bex Ferriday

Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 7 munud o ddarllen

Mae’r cyflwyniad Pecha Kucha yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn darparu gwibdaith o amgylch LinkedIn Learning, yn dangos sut y gellir curadu cynnwys i chi, eich myfyrwyr, neu dimau proffesiynol, ac mae’n cynnwys golwg ar bersbectif y


Pynciau

Professional Recognition | Pathways & Promotions | Peer Reviews | Self-reflection |

7 cydnabyddiaeth

Cyfrannu at yr Hwb Dysgu

Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.