Canllawiau cyfrannwr
Mae'r Ganolfan Ddysgu wedi'i dylunio gan academyddion ar gyfer academyddion, a byddem yn eich annog i rannu unrhywbeth sy'n cefnogi neu'n gwella addysgu a dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, neu sy'n ysgogi pobl y fyfyrio ar hynny.
Mae rhai o'r cyfraniadau'n cynnwys:
- Cyflwyniad am un elfen o addysgu a gyflenwyd gennych mewn cynhadledd
- Astudiaeth achos am arfer newydd yr ydych wedi rhoi cynnig arni...neu yr ydych wedi bod yn ei gwneud ers blynyddoedd
- Ymchwil i ba mor effeithiol yw dull penodol
- Canllawiau ynglŷn â sut i fabwysiadu arfer benodol
Os nad ydych chi'n siŵr ble i ddechrau, edrychwch ar ein themâu a thestunau.
Cyn cyflwyno
Os ydych chi'n aelod o staff ym Mhrifysgol Caerdydd, byddem wrth ein bodd pe gallech gyfrannu at y Ganolfan Ddysgu drwy ddilyn y broses gyfrannu. Rydym yn annog pobl i gyflwyno yn Gymraeg neu Saesneg.
Rydym yn croesawu adnoddau mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys Word, PowerPoint, PDF a fideo.
Cyflwyno astudiaeth achos
Mae astudiaethau achos yn ffordd bwerus o fyfyrio ar eich profiad o fabwysiadu arfer neu ddull penodol a'i rannu â'ch cydweithwyr.
Os ydych chi am gyflwyno astudiaeth achos, gallwch lawrlwytho ein templed ar gyfer astudiaethau achos yma:
Templed Astudiaeth Achos – Fersiwn Saesneg
Templed Astudiaeth Achos – Fersiwn Gymraeg
Gallwch hefyd gyflwyno astudiaeth achos ar ffurf fideo os ydych chi'n dymuno. Os ydych chi am gael cymorth o ran creu astudiaeth achos ar ffurf fideo yn Panopto, cysylltwch âni ar LTAcademy@caerdydd.ac.uk a byddwn yn cysylltu â chi i drefnu.
Ar ôl cyflwyno
Ar ôl i chi gyflwyno eich adnodd, bydd yn mynd drwy broses adolygu gan gymheiriaid cyn cael ei gyhoeddi.
Bydd adnoddau a gyflwynir i'r Ganolfan sy'n dod o fewn Polisi'r Brifysgol ar gyfer Hawliau Eiddo Deallusol (Adran D, 30.11), yn amodol ar gymeradwyaeth gan Bennaeth yr Ysgol/Adran, ar gael drwy'r Ganolfan dan Drwydded Comin Creu CC BY-NC-ND, sef trwydded derfynol i gyhoeddi'r adnodd yn yr amgylchedd hwn.