Ewch i’r prif gynnwys

Dylanwadu ar ddiwygio etholiadol yn Kenya

Roedd ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn allweddol i wrthdroi canlyniad etholiad yn Kenya a gosododd gynsail ar gyfer gwell atebolrwydd, tegwch a datrysiad heddychlon i anghydfodau gwleidyddol lefel uchel.

Kenyan court

Yn 2010, cyflwynwyd Cyfansoddiad newydd yn Kenya a oedd yn hyrwyddo hawliau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol ac adolygiad barnwrol o ymddygiad etholiadol.

Fodd bynnag, canfu ymchwil a gynhaliwyd gan yr Athro John Harrington a’r Athro Ambreena Manji nad oedd penderfyniad gan y Goruchaf Lys yn 2013, lle cafodd canlyniad etholiad arlywyddol dadleuol ei gadarnhau, wedi mabwysiadu dehongliad egwyddorol o Gyfansoddiad 2010.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae gan Kenya hanes hir o aflonyddwch sifil yn dilyn cyhoeddi canlyniadau etholiad. Pan gafwyd anghydfod ynghylch etholiad arlywyddol Kenya yn 2007, galwodd arweinydd yr wrthblaid – nad oedd ganddo hyder yn y farnwriaeth – am aflonyddwch sifil.  Arweiniodd hyn at drais eang, bu farw amcangyfrif o 1,500 o bobl a chafodd y wladwriaeth ei chwalu’n sylweddol.  Mae canoli ac awdurdodyddiaeth, ynghyd â llygredd eang, wedi arwain at anghydraddoldeb economaidd a gwrthdaro sifil difrifol yn y wlad.

Lluniwyd Cyfansoddiad 2010 i sicrhau na fyddai hyn byth yn digwydd eto.  Cyn y pwynt hwn, roedd Kenya yn cael ei llywodraethu fel gwladwriaeth 'Lefiathan' – un a oedd yn canolbwyntio pŵer yn y weithrediaeth ac yn ei gwneud ei hun yn imiwn i graffu.  Gall dyfarniad egwyddorol o ddeisebau etholiadol gyfrannu at sefydlogrwydd a newid trefn heddychlon.  Llysoedd yw gwarcheidwaid y trawsnewid hwn oherwydd gall eu penderfyniadau gyfrannu at ddiwylliant o atebolrwydd a pharch at reolaeth y gyfraith.

Yn 2013, pan heriwyd yr etholiad arlywyddol ar sail problemau gyda’r broses gofrestru, systemau pleidleisio a chyfrif, dilynodd arweinydd yr wrthblaid weithdrefn gyfansoddiadol a daeth â'r achos i Oruchaf Lys Kenya.  Roedd y deisebau gerbron y Llys yn brawf hollbwysig o egwyddorion cyfansoddiadol newydd a dyfarnodd y Llys o blaid cadarnhau’r canlyniad.

…mae’n bwysig edrych ar y llysoedd fel y mae Cyfansoddiad 2010 yn ei wneud, nid fel defnyddiwr digroeso o rym yr etholwyr, ond fel amddiffyniad pwrpasol yn erbyn twyll etholiadau sydd wedi llygru rhan fawr o hanes Kenya fel democratiaeth.
David Maraga Yn ysgrifennu yn 2016 (cyn dod yn Prif Ustus Kenya 2016-2021)

Adolygiad barnwrol

Aeth yr Athro Harrington a'r Athro Manji ati i ddadansoddi penderfyniad y Llys a chanfod bod y dyfarniad yn anghyson â'r uchelgeisiau trawsnewidiol a oedd yn sail i Gyfansoddiad 2010.

Roedd eu dadansoddiad yn cynnwys darlleniad manwl o'r materion allweddol y rhoddodd y Llys sylw iddynt wrth benderfynu, er bod yr etholiad yn cynnwys nifer o anghysondebau, nad oedd mor ddiffygiol fel ei fod yn annilys.

Yn eu plith roedd y safon profi; y rhagdybiaeth bod yr etholiad wedi’i gynnal yn deg; gwahardd cynrychiolwyr yr wrthblaid rhag cyfrif pleidleisiau; a dymchwel y system trosglwyddo pleidleisiau electronig a defnyddio cofnodion papur annibynadwy yn ei lle.

Cyfunwyd adolygiad cyfreithiol technegol â chyd-destun hanesyddol, gan ddangos arwyddocâd gwleidyddol ehangach y penderfyniad, gan gyfeirio at y llenyddiaeth ar ddiwygio gwleidyddol yn Kenya ers dechrau’r 1990au.

Dadleuodd yr Athro Harrington a’r Athro Manji fod y Cyfansoddiad yn mandadu symudiad mewn diwylliant cyfreithiol i ffwrdd oddi wrth lythrenoliaeth gul i ddull ymresymu mwy bwriadol ac egwyddorol.  Felly, rhaid dehongli rheoliadau etholiadol manwl, y codau ar gyfer trosglwyddo canlyniadau, a'r rheolau profi mewn unrhyw achos llys gan ystyried uchelgais y Cyfansoddiad i ddiogelu llywodraethu da, uniondeb, tryloywder ac atebolrwydd, ac i hyrwyddo hawliau gwleidyddol gan gynnwys etholiadau rhydd a theg.

Daeth yr ymchwil i'r casgliad bod methiant Goruchaf Lys Kenya i ddehongli'r Cyfansoddiad yn fwriadol yn 2013 yn gyfle coll a roddodd hwb i'r hen fodel o bwerau gwladwriaethol a oedd yn gweithredu y tu hwnt i gyrraedd y gyfraith.  Yn hytrach nag atgyfnerthu’r enillion a wnaed gan y cyfansoddiad newydd yn 2010, roedd yn bygwth eu tanseilio.

Dylai fod yn ofynnol i’r Farnwriaeth gyfan ddarllen yr ymchwil…mae’n ein hatgoffa pam y buom yn brwydro cyhyd am Gyfansoddiad newydd a’r hyn yr oedd ei chyhoeddi i fod i’w olygu.
Maina Kiai Cyn Gyfarwyddwr Amnest Rhyngwladol Affrica a Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar yr Hawl i Ymgynnull 

Hanes yn ailadrodd ei hun

Yn 2017, roedd Uhuru Kenyatta, yr Arlywydd presennol, yn fuddugol unwaith eto yn etholiad arlywyddol Kenya. Apeliodd arweinydd yr wrthblaid, Raila Odinga, yn erbyn y penderfyniad trwy ddeiseb i’r Goruchaf Lys, gyda’r nod o wrthdroi canlyniad yr etholiad ar sail afreoleidd-dra eang.

Roedd gan ymchwil yr Athro Harrington a’r Athro Manji rôl ddylanwadol wrth berswadio Mr Odinga i herio penderfyniad yr etholiad. Cyhoeddodd Mr Odinga i ddechrau na fyddai’n mynd i’r Llys gan fod y trothwy ar gyfer annilysu canlyniad yr etholiad a sefydlwyd yn 2013 yn ymddangos yn “anorchfygol”. Defnyddiodd tîm yr erlyniad ymchwil Prifysgol Caerdydd i wneud achos cryf dros berswadio’r Llys i dderbyn prawf ansoddol yn unig yn lle hynny a dywedodd mai rhan o’r rheswm y newidiodd Mr Odinga ei feddwl a herio’r penderfyniad oedd oherwydd bod ei dîm cyfreithiol wedi ei argyhoeddi bod siawns dda ganddo o gael y Llys i newid y prawf ar gyfer annilysu etholiadau.

Ar 7 Awst 2017, dyfarnodd y Goruchaf Lys o blaid Mr Odinga trwy ddatgan nad oedd yr etholiad wedi'i gynnal yn unol â'r Cyfansoddiad. Dywedwyd ei fod yn “ddyfarniad hanesyddol” a’r “enghraifft gyntaf yn Affrica lle gwnaeth llys ddiddymu canlyniad lle cafodd arlywydd presennol ei ailethol” (New York Times).

Dywed Dr Gladwell Otieno fod dyfarniad Goruchaf Lys Kenya wedi rhoi “cynsail gyfreithiol a dewrder gwleidyddol” i wledydd eraill yn Affrica “fynnu proses graffu lawn” a herio pŵer gweithredol. Yn 2019, gwrthdrodd yr Uchel Lys ym Malawi ganlyniad yr etholiad arlywyddol gan ddefnyddio rhesymu tebyg i ddyfarniad Kenya yn 2017 trwy dynnu sylw at bwysigrwydd dehongli’r Cyfansoddiad “yn eang ac yn bwrpasol”. Dilynodd ddyfarniad Kenya ar fabwysiadu prawf ansoddol ar gyfer annilysu etholiadau a oedd yn gyson â'r dadansoddiad o ymchwil ffurfiannol a gynhaliwyd gan yr Athro Harrington a’r Athro Manji a chanlyniadau’r gwaith dadansoddi hwnnw.