Ewch i’r prif gynnwys

Meithrin rhagor o undod Cristnogol trwy gyfraith yr Eglwys

Mae’n hymchwil i Gyfraith Canon wedi dylanwadu ar arweinyddion eglwysig, newid agweddau hirsefydlog a gwella ffyrdd o gyflawni gwaith eciwmenaidd yn y deyrnas hon ac yn Ewrop.

Mae'r mudiad eciwmenaidd yn hybu undod ymhlith y ddwy filfiliwn o Gristnogion ledled y byd. O dan adain Cyngor Eglwysi'r Byd (WCC), mae eciwmeniaeth yn draddodiadol wedi canolbwyntio ar chwilio am dir cyffredin diwinyddol yn hytrach na chyfreithiol. A hynny o achos gwahaniaethau rhwng trefnau cyfreithiol eglwysig.

Yn 2013, gwyrdroes ymchwil yr Athro Norman Doe, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, y duedd honno. Astudiodd am y tro cyntaf erioed offerynnau rheoleiddio 100 o eglwysi a 10 traddodiad ledled y byd.

Gwelodd eu bod yn debyg iawn i’w gilydd. Yn sgîl hynny, cynigiodd yr Athro Doe 250 o egwyddorion sy’n gyffredin i’r gyfraith Gristnogol megis:

  • 'Mae urddas pob un o'r ffyddloniaid yn gyfartal. Sail eu cydraddoldeb yw eu bod wedi’u creu yn ôl delwedd Duw.'
  • 'Dylai eglwys wasanaethu mewn ffyrdd priodol bawb sy'n gofyn am ei hoffeiriadaeth, waeth beth fo'i haelodaeth.'
  • 'Dylai fod gwahanu sefydliadol sylfaenol rhwng eglwys a'r wladwriaeth ond dylai eglwys gydweithredu â'r wladwriaeth ynghylch pryderon sy'n gyffredin.'

Dangosodd yr egwyddorion hyn sut mae deddfau'n cysylltu Cristnogion.

Ar ben hynny, dadleuodd yr Athro Doe eu bod yn cynnig llwybr ymarferol tuag at gyd-ddeall ac yn goresgyn rhaniadau diwinyddol.

Er gwaethaf y canfyddiadau, methodd adroddiad Comisiwn Ffydd a Threfn Cyngor Eglwysi’r Byd ag ystyried rôl y gyfraith Gristnogol mewn eciwmeniaeth y flwyddyn honno.

Ymddangosai fod yr Athro Doe ar ei ben ei hun wrth ddadlau y dylai’r Cyngor ddefnyddio’r gyfraith eglwysig i uno enwadau yn ei waith.

Ymateb i adroddiad y Cyngor

Tua diwedd 2013, cynullodd Mark Hill QC Banel Arbenigwyr y Gyfraith Gristnogol.

Dyna’r tro cyntaf ers y 1970au roedd eglwysi’r byd wedi cydweithio’n ffurfiol i ystyried sut y gallai’r gyfraith Gristnogol fod yn ganolbwynt eciwmenaidd.

Ac yntau’n aelod o’r panel, roedd barn yr Athro Doe yn hanfodol ynghylch helpu’r amrywiaeth eang o gynrychiolwyr i gydnabod sut y gallai’r egwyddorion cyffredin roedd wedi’u nodi yn ei ymchwil fod o gymorth creadigol i eciwmeniaeth.

Ategodd ei ymchwil ymateb y panel i’r Cyngor yn 2014 - datganiad a bwysleisiodd sut mae defnyddio’r gyfraith yn ffordd ymarferol o hybu eciwmeniaeth fyd-eang.

Parhaodd y syniad i godi stêm yn 2015-16 pan gymharodd Panel yr Arbenigwyr y 250 o egwyddorion cyfraith Gristnogol yn ymchwil yr Athro Doe â deddfau pob un o’u heglwysi nhw.

Ar ôl derbyn bod 230 yn gyffredin i bawb, cyhoeddodd y panel ei Ddatganiad o Egwyddorion y Gyfraith Gristnogol - y cytundeb eciwmenaidd cyntaf o’i fath ynghylch egwyddorion cyfreithiol.

A minnau’n arwain corff eciwmenaidd cenedlaethol yn ogystal â helpu i bennu Egwyddorion y Gyfraith Gristnogol, rwy’n sicr bod yr elfen hollol newydd hon o gydweithio eciwmenaidd wedi dod yn ffordd hanfodol newydd o alluogi eglwysi i ymateb ar y cyd i’r anawsterau maen nhw’n eu hwynebu wrth wasanaethu’r byd ehangach.
Paul Goodliff Prif Ysgrifennydd, Churches Together in England

Mae'r Athro Doe a Mr Hill QC wedi cyflwyno'r datganiad i'r Pab Francis a'i Holl Sancteiddrwydd Bartholomew.

Gan nodi gwaith Doe, soniodd Patriarch Eciwmenaidd Bartholomew am y “Datganiad pwysig hwn, sy'n fodd o undod a chydweithio rhwng Cristnogion o wahanol draddodiadau ac sydd wedi’i lunio i lenwi bwlch barnwrol hanesyddol y fenter eciwmenaidd.”

Meddai’r Pab Francis, mewn anerchiad pabaidd yn 2019, “Yn ogystal â hwyluso trafod eciwmenaidd, mae cyfraith canon yn ddimensiwn hanfodol.”

Mae digwyddiadau yn Uppsala, Caerdydd, Amsterdam, Sydney, Melbourne, Rhufain a Llundain wedi dod â grwpiau eciwmenaidd at ei gilydd i drafod sut y gall egwyddorion ymchwil yr Athro Doe feithrin undod o fewn eglwysi a rhyngddyn nhw.

Bydd 11eg Cynulliad Cyngor Eglwysi’r Byd yn trafod y datganiad yn yr Almaen yn ystod haf 2022.

Related links

Related news

Meet the team

Key contacts

Selected publications