Fis Hydref eleni, newidiodd Athro o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ei rôl am noson i weld drama yr oedd wedi'i hysgrifennu yn cael ei pherfformio i gynulleidfa lawn yng Nghadeirlan Tyddewi, Sir Benfro.
Fis Medi eleni, ymwelodd dirprwyaeth o uwch farnwyr ac ynadon o Genia â Chaerdydd i drafod cyfleoedd ar gyfer cydweithredu mewn hyfforddiant, ymchwil ac addysg.
Mae cymhlethdodau’r Llys Teulu yn cael sylw mewn cyfres o sesiynau cyngor rhad ac am ddim yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n wynebu sefyllfaoedd yn ymwneud â pherthnasoedd teuluol yn dod i ben.
Bydd cyfreithiwr hawliau dynol ffeministaidd ac arbenigwr ym maes cydraddoldeb rhywiol yn ymuno ag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym mis Hydref yn un o Gymrodyr Rhyngwladol yr Academi Brydeinig.
Darganfuwyd sgyrsiau cyfrinachol rhwng y Fyddin Brydeinig, yr IRA, a grwpiau parafilwrol teyrngarol gan academydd o Brifysgol Caerdydd wrth iddo ymchwilio i’w hanes newydd o’r Helyntion yng Ngogledd Iwerddon.