Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio mewn partneriaeth â Hugh James

Ers dros 18 mlynedd, mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi gweithio law yn llaw â chwmni cyfreithiol blaenllaw, sef Hugh James, i gynnig ystod o gyfleoedd i’n myfyrwyr. Mae cyfleoedd o’r fath yn caniatáu iddyn nhw gael blas ar sut brofiad yw gweithio mewn cwmni cyfreithiol uchel ei broffil sy’n esblygu’n barhaus.

Mae Hugh James yn cynnig lleoliadau gwaith paragyfreithiol sy’n galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu’r prif sgiliau sydd eu hangen ar ymarferwyr megis rheoli achosion, ymchwilio cyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol, yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol megis rheoli amser, gweithio mewn tîm a bod yn fasnachol-ymwybodol.

Rydyn ni hefyd yn cydweithio â Hugh James i gynnig ein cynllun ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Ar y cynllun pro bono hwn, mae ein myfyrwyr yn dysgu sut mae Hugh James yn helpu teuluoedd y rhai mewn cartrefi nyrsio i adennill ffioedd cartref gofal y gellir dadlau y dylai'r GIG fod wedi'u talu. Mae’r myfyrwyr yn gweithio ar ffeiliau ffug ac yn adolygu cofnodion meddygol, yn drafftio llythyrau i’w hanfon at 'gleientiaid' a sefydliadau eraill ac yn datblygu eu sgiliau eirioli drwy gymryd rhan mewn Panel Adolygiad Annibynnol ffug.  Mae’r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr ac yn cael y cyfle i ryngweithio â Phartner ac Uwch-gydymaith.

Mae’r cynllun yn gyfle gwych i’r myfyrwyr, nid yn unig ddod i adnabod maes o’r gyfraith na fyddent wedi dod i gysylltiad ag ef o’r blaen, mae’n debyg, ond hefyd i ddatblygu eu sgiliau o ran ysgrifennu at gleientiaid, adolygu cofnodion meddygol ac eiriolaeth. Mae’n fraint i mi fod wedi dod yn gylch llawn a gallu rhoi yn ôl i’r cynllun sydd yn ei hanfod wedi rhoi cychwyn ar fy ngyrfa gyfreithiol.
Katie Morgan Cyfreithiwr Cyswllt o fewn yr Adran Gofal Nyrsio. Cymerodd Katie ran yng Nghynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG rhwng 2009 a 2011

Gyda chymaint yn digwydd, mae Hugh James yn aml yn sôn am weithio gyda ni yn eu blog. Felly, rydyn ni wedi crynhoi’r postiadau diweddar sy’n amlygu sut rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd a sut mae ein myfyrwyr yn elwa o hynny.

Byddwn yn annog y myfyrwyr i ddod i adnabod y bobl y maent yn gweithio gyda nhw, o ran myfyrwyr eraill a goruchwylwyr Hugh James. Mae'n ffordd wych o ddechrau rhwydweithio sy'n sgil bwysig iawn.
Charlotte Fletcher Uwch Gydymaith yn nhîm y Llys Gwarchod