Ymchwil sy'n adlewyrchu bywyd, cyfraith yn y byd go iawn
Bydd ein diddordebau a'n meysydd ymchwil yn newid o hyd yn sgîl yr hyn sy'n digwydd yn y byd ar unrhyw adeg benodol.
Mae cysylltiad cryf iawn rhwng astudio’r gyfraith a bywyd go iawn ac adlewyrchir hyn yn yr ymchwil rydyn ni’n ei gwneud sy’n ymwneud â phroblemau dybryd heddiw, gan gynnwys sicrhau cyfiawnder, yr argyfwng hinsawdd parhaus, gwahaniaethu a hawliau dynol, cyfraith teulu, rheoleiddio technolegau newydd sy’n dechrau dod i’r golwg, troseddau ariannol a chwestiynau hollbwysig am y gyfraith ryngwladol pan fydd gwrthdaro arfog.
Does dim byd yn sefyll yn yr unfan ym myd ymchwil ond rydyn ni wedi grwpio ynghyd rai o'r meysydd hynny rydyn ni'n gofyn cwestiynau perthnasol amdanyn nhw ar hyn o bryd ac yn ceisio gwybod rhagor amdanyn nhw.
Cyfiawnder troseddol o dan fygythiad
Mae Dr Rob Jones wedi gweithio'n helaeth ar faterion sy’n ymwneud â chyfiawnder troseddol a hawliau carcharorion.
Yn ei lyfr diweddar, The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge, gyda’r cyd-awdur Richard Wyn Jones, Athro Gwleidyddiaeth Cymru, ceir y dadansoddiad manwl cyntaf o gyflwr enbyd cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae’r llyfr wedi denu cryn sylw gan yr awdurdodau deddfwriaethol, ar ôl cael ei drafod yn y Senedd ac mae Dr Jones wedi rhoi tystiolaeth arbenigol i’r Senedd hefyd ar y materion hyn.
Diogelu Cwsmeriaid
Mae Dr Sara Drake yn rhan o dîm sy'n ymchwilio i hawliau defnyddwyr, twristiaeth a thrafnidiaeth awyr.
Mae'r tîm wedi cynnal grwpiau ffocws i ganfod faint roedd defnyddwyr yn ei wybod am eu hawliau’n deithwyr awyr pan gafodd eu hediadau eu canslo oherwydd pandemig COVID-19. Casglodd y tîm ddata hefyd ar farn y bobl a gymerodd ran am eu profiad gyda chwmnïau hedfan ac a fyddai hyn yn effeithio ar eu hymddygiad teithio yn y dyfodol. Cafodd ymchwil Drake ar hawliau teithwyr awyr yr UE a gorfodaeth y rhain ei dyfynnu’n ddiweddar yn Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd gan yr Adfocad Cyffredinol Pikamäe. Ar hyn o bryd mae Drake yn ysgrifennu llyfr ar hawliau teithwyr awyr yr UE a'r ffordd maen nhw’n cael eu gorfodi a chaiff y llyfr ei gyhoeddi gan Hart yn 2024.
Hawliau anabledd
Mae Dr Alison Tarrant wedi ymchwilio i'r cysyniad o fyw'n annibynnol a ddyfeisiwyd gan fudiad y bobl anabl a sut y mae polisïau a chyfraith gofal cymdeithasol Cymru wedi mynd ati i’w gynnwys a’i ddefnyddio.
Gwahoddwyd Dr Tarrant i fod yn aelod o Dasglu Hawliau Anabledd newydd Llywodraeth Cymru. Diben y tasglu yw ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad ar effaith COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru, a goruchwylio datblygiad cynllun gweithredu i sicrhau bod hawliau pobl anabl yn cael eu cynnal yng Nghymru.
Y ffordd hir i gydraddoldeb
Yn ddiweddar, dyfarnwyd Medal Dillwyn am ragoriaeth yn y Dyniaethau i waith arloesol Dr Sharon Thompson ar hanes cydraddoldeb priodasol.
Yn llyfr diweddar Dr Thompson, Quiet Revolutionaries: The Married Women’s Association and Family Law, cawn ail-fyw hanes yr arloeswyr ffeministaidd a frwydrodd yn daer i newid hawliau cyfreithiol gwragedd tŷ. Ceir cyfres o bodlediadau ar y cyd â’r llyfr sydd wedi cael cryn glod, a dylai pawb â diddordeb ym maes cyfraith teulu a chydraddoldeb sicrhau ei fod yn ei ddarllen ac yn gwrando ar y podlediadau gan eu bod yn dathlu cyfraniad annisgwyl grŵp rhyfeddol o ymgyrchwyr ym maes perthnasoedd yn y teulu modern.
Iaith casineb, twyllwybodaeth a'r Rhyngrwyd
Mae Dr Sejal Parmar yn gweithio'n helaeth ar oblygiadau’r gyfraith ryngwladol ym maes rheoleiddio cynnwys niweidiol.
Rhwng 2020 a 2021, hi oedd Cyd-Rapporteur Pwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Frwydro yn erbyn Iaith Casineb yn ogystal â bod yn aelod annibynnol ohono. Yn sgîl hyn, drafftiodd y Pwyllgor Argymhelliad Cyngor Ewrop ar frwydro yn erbyn iaith casineb a fabwysiadwyd wedyn gan Bwyllgor y Gweinidogion. Ar ôl cynghori nifer o sefydliadau rhyngwladol o bwys, cyrff anllywodraethol a chwmnïau ar iaith casineb ar-lein, mae hi bellach yn gymrawd polisïau yn Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu’r DU gan roi cyngor ym mholisïau tramor y DU ar sut i ymateb i dwyllwybodaeth a bygythiadau o ran gwybodaeth.
Y gyfraith a'r ffin derfynol
Mae gwaith Dr PJ Blount yn ymchwilio i’r gyfraith ryngwladol ar y gofod allanol, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddiogelwch y gofod a’r gyfraith a llywodraethu ym maes y seiberofod.
Mae wedi cyhoeddi a chyflwyno'n eang ar bwnc cyfraith y gofod ac wedi rhoi tystiolaeth arbenigol ar Reoli Traffig y Gofod gerbron Is-bwyllgor y Gofod Siambr Isaf yr Unol Daleithiau. Ac yntau’n ysgrifennydd gweithredol Sefydliad Rhyngwladol Cyfraith y Gofod, mae’n sylwedydd Is-bwyllgor Cyfreithiol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar y Defnydd Heddychlon o'r Gofod Allanol. Yn ddiweddar mae wedi cyd-olygu’r Oxford Handbook on Space Security (Gwasg Prifysgol Rhydychen), a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni.