Mynd i'r afael â materion byd-eang, llunio agendâu byd-eang
Mae ein diddordebau a'n meysydd ymchwil yn esblygu'n gyson yn seiliedig ar yr hyn sy'n digwydd yn y byd ar unrhyw adeg benodol.
Mae ein harbenigedd ymchwil yn ein galluogi i ymateb i ddigwyddiadau a materion gwleidyddol allweddol, gan lunio'r agendâu yn unol â hynny. Rydym yn ymchwilio i effeithiau gwleidyddol ystod eang o faterion o hil-laddiad, newid hinsawdd, a datblygiad, i ad-drefnu Ewrop, cyfansoddiad y DU, ac effeithiau parhaus gwladychu.
Does dim byd yn aros yn llonydd ym myd ymchwil ond rydyn ni wedi grwpio ynghyd rai o'r meysydd hynny rydyn ni'n gofyn cwestiynau perthnasol amdanynt ar hyn o bryd ac yn ceisio darganfod rhagor amdanynt.
Cymru yn y Byd
 Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru ill dwy wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, mae’n golygu bod ein lleoliad ninnau’n addas ar gyfer ein sylwebaeth a'n hymchwil sy'n arwain y byd ar lywodraethiant a rôl fyd-eang Cymru.
O ddadansoddiad rhyngddisgyblaethol diweddar o'r heriau y gallai datganoli eu golygu i system cyfiawnder troseddol Cymru,, dadansoddiad a gynhaliwyd gan Dr Robert Jones a'r Athro Richard Wyn Jones, i un o'n harbenigwyr blaenllaw, yr Athro Laura McAllister yn cyd-gadeirio'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, mae ein hymchwil yn llywio polisïau'n rheolaidd er mwyn creu cymdeithas decach a mwy ffyniannus, ac mae’n rhoi gwybod i’r byd beth yw gwerthoedd Cymru. Rydyn ni’n cynnal ymchwil arloesol i bob agwedd ar gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraethu ac economi wleidyddol Cymru yn ogystal â chyd-destunau ehangach llywodraethu tiriogaeth y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop.
Cyfrinachedd a Deallusrwydd
Mae gennym ddiddordeb brwd yn y rôl y mae cyfrinachedd a deallusrwydd yn ei chwarae mewn cymdeithasau ac mewn gwleidyddiaeth fyd-eang.
O waith Dr Martin Horton-Eddison ar aneglurder Marchnadoedd Crypto-Gyffuriau, i lyfr arobryn Dr Thomas Leahy, The Intelligence War Against the IRA, sy'n dangos mor gyfeiliornus oedd nifer o’r barnau poblogaidd ar y pryd ynghylch sut yr oedd gweithrediadau Cudd-wybodaeth Prydain yn effeithio ar wrthdaro yng Ngogledd Iwerddon, mae ein hymchwil yn cynnig goleuni i ysgolheigion a llunwyr polisïau ynghylch sut mae cyfrinachedd a deallusrwydd yn siapio arferion gwleidyddol o ran atebolrwydd a rheolaeth.
Rydym hefyd ar flaen y gad o ran hyrwyddo cynhwysiant ym maes astudiaethau cudd-wybodaeth. Mae Dr Claudia Hillebrand yn aelod o fwrdd Rhwydwaith y Menywod ym maes Cudd-wybodaeth sy'n cefnogi menywod a chanddynt diddordeb mewn maes ymchwil sydd wedi'i ddominyddu'n nodweddiadol gan ddynion, ac ynghyd â Dr Huw Bennett mae hi wedi cyhoeddi gweithiau ar bwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes ymchwil astudiaethau cudd-wybodaeth.
Gwladychiaeth, Ôl-Wladychiaeth, a Gwrth-Wladychiaeth
Sut cafodd Gwladychiaeth ei herio? Pa effeithiau parhaus mae gwladychiaeth yn ei chael o hyd ar gysylltiadau y tu mewn i wladwriaethau a rhyngddynt? Beth all gwleidyddiaeth dadwladychu a’r syniadaeth sydd ynghlwm â hi ei ddweud wrthym am rym?
Dyma rai o'r cwestiynau y mae ein hymchwilwyr yn eu harchwilio. Mae Dr Dorothy Kwek yn ymchwilio i syniadaeth ynghylch dadwladychu a'i pherthnasedd parhaus. Mae'r Athro Branwen Gruffydd Jones yn canolbwyntio ar fudiadau annibyniaeth Affricanaidd, ac yn enwedig felly syniadau ac arferion Amílcar Cabral a'i gyd filwyr. Mae ymchwil Dr Elisa Wynne-Hughes yn edrych ar sut mae neo-wladychiaeth yn llywio’r ffordd mae twristiaeth yn cael ei harfer, a chan ganolbwyntio ar yr Aifft, mae'n edrych ar sut gall twristiaeth fod yn gyfrifol am ail-sefydlu anghydraddoldebau lleol a byd-eang.
Newid yn yr hinsawdd a Llywodraethu Byd-eang
Gellir dadlau mai newid hinsawdd yw'r mwyaf arwyddocaol o'r holl heriau gwleidyddol. Adlewyrchir ei phwysigrwydd yn ein grŵp trawiadol o arbenigwyr sy'n ymchwilio i amrywiaeth helaeth o bynciau yn y maes.
Mae ymchwil Dr Jennifer Allan yn edrych ar sut mae rheolau byd-eang ar newid hinsawdd yn cael eu creu a'u hail-greu, weithiau yn sgîl dylanwad ymgyrchwyr. Mae Dr Allan yn cymryd rhan weithredol yn y prosesau y mae hi'n eu hastudio ac mae hi’n gyson bresennol mewn digwyddiadau COP, yn fwyaf diweddar yn COP27 yn Sharm El-Sheikh. Mae Dr Stavros Afionis hefyd yn ymchwilio i drafodaethau rhyngwladol ar newid hinsawdd ac yn defnyddio’r arbenigedd hwn wrth drafod â chyd-aelodau Tasglu Hinsawdd a'r Amgylchedd Think7, melin drafod swyddogol y G7.
Mae ein hacademyddion hefyd yn canolbwyntio ar faterion eraill sy'n llywio arferion a thueddiadau o ran y modd mae'r byd yn cael ei lywodraethu. Mae Dr Hannes Hansen-Magnusson yn ymchwilio i sut mae newid yn yr hinsawdd yn llywio cysylltiadau rhwng endidau'r Arctig a'r rhai nad ydynt yn Endidau’r Arctig, tra bo’r Athro Edwin Egede yn archwilio sut mae rhanbarth Affrica yn rhyngweithio ag amrywiol gyfundrefnau, megis cyfraith a llywodraethu cefnforoedd, diogelwch morwrol, hawliau dynol a sefydliadau rhyngwladol.
Poblyddiaeth, Eithafiaeth, a Gwleidyddiaeth
O amlygrwydd a chwymp Donald Trump ac amlygrwydd ffigurau a mudiadau eraill yn ymwneud â phoblyddiaeth, i'r brwydrau gwleidyddol a ddaeth i amlygrwydd drwy’r mudiadau #MeToo ac Mae Bywydau Du o Bwys, mae gwleidyddiaeth gyfoes yn ymwneud yn barhaus â chwestiynau am gymeriad democratiaeth a'r bygythiadau y mae syniadau’n ymwneud â phoblyddiaeth a syniadau eithafol yn eu creu mewn perthynas â hyn.
Mae ymchwil ddiweddar yr Athro Marysia Zalewski yn archwilio'r anghrediniaeth ffeministaidd a ddaeth i amlygrwydd yn sgîl ethol Donald Trump, penodiad fu’n gyfrifol am ail-rymuso patriarchiaeth ffyrnig (gwyn) yr oedd nifer yn credu oedd wedi hen ddiflannu.
Ar y cyd ag awduron eraill, mae Dr Ian Stafford yn cwestiynu’r dirywiad yn yr ymddiried sydd gan y cyhoedd mewn llywodraethau a'r rhwystrau o ran ail-adeiladu hyn. Yn The Populist Manifesto, mae Dr Emmy Eklundh, a thîm o ysgolheigion blaenllaw, yn canolbwyntio ar newid y dadleuon academaidd ynghylch poblyddiaeth wleidyddol. Eu dadl yw nad agwedd negyddol ar wleidyddiaeth yn unig yw poblyddiaeth ond y dylid ei hystyried yn fodd arall o ymwneud â gwleidyddiaeth. Mae ymchwil Dr Haro Karkour yn ein rhybuddio ynghylch rhai o'r heriau sy’n bygwth trefn ryngwladol yn sgîl cenedlaetholdeb eithafol a thrais, ond hefyd sut i'w herio, ac mae ymchwil ddiweddar yr Athro Victoria Basham yn dadlau bod canolbwyntio ar sut mae cymdeithasau'n ymateb i ddigwyddiadau o anhrefn yn datgelu sut mae'r gyfundrefn ryngwladol yn cael ei chreu a’i chynnal.