Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion ac erthyglau arbennig

Grŵp yn sefyll o flaen adeilad

Myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn mynd ar daith i ddysgu am ddiwylliant y Māori

19 Tachwedd 2024

Lansio rhaglen gyfnewid rhwng myfyrwyr Māori a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith

Yr Athro Victoria Basham

Athro Cysylltiadau Rhyngwladol yn cael ei phenodi’n athro gwadd yn Stockholm

8 Tachwedd 2024

Mae Athro o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi cael ei phenodi’n athro gwadd mewn sefydliad mawreddog yn Sweden.

Stock image of a table with documentation on it

Clinig cyngor cyfraith sy’n rhad ac am ddim yn agor i’r cyhoedd

7 Tachwedd 2024

Mae aelodau o’r cyhoedd sydd angen cymorth gyda materion cyfreithiol bellach yn gallu cael cyngor rhad ac am ddim o ganlyniad i gynllun pro bono newydd sy’n cael ei gynnig gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Canolfan y Gyfraith a Chrefydd yn bresennol yn y Jiwbilî Colocwiwm yn Rhufain

30 Hydref 2024

Teithiodd y tîm Anglicanaidd yng Nghanolfan y Gyfraith a Chrefydd i Rufain ym mis Medi eleni i fynd i’r digwyddiad dathlu pum mlynedd ar hugain ers sefydlu Colocwiwm y Cyfreithwyr Eglwysig Catholig Rhufeinaidd ac Anglicanaidd.

Yr Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Bythol ifanc yn 125 oed! Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn dathlu pen-blwydd carreg filltir

17 Hydref 2024

Bydd y tymor newydd yn cychwyn gyda dathliadau i gydnabod 125 mlynedd o’r adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol!

Tu mewn i garchar

“Dirywiad aruthrol” yn niogelwch carchardai Cymru

16 Hydref 2024

Mae adroddiad yn datgelu cynnydd sydyn yn nifer yr ymosodiadau a’r achosion o hunan-niweidio

Owain Siôn

Myfyriwr yn ennill gwobr mewn gŵyl genedlaethol am berfformio monologau gwleidyddol

15 Hydref 2024

Mae myfyriwr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi ennill medal yn nathliad diwylliannol mwyaf Cymru, am berfformio dwy fonolog wleidyddol o’r gorffennol a’r presennol. Enillodd Owain Sion, sy’n fyfyriwr Gwleidyddiaeth yn y flwyddyn gyntaf, Fedal fawreddog Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a gynhaliwyd ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal mewn ardal wahanol o Gymru bob blwyddyn ac mae’n ddathliad o Gymreictod a phopeth Cymraeg. Mae’n dod â phobl ynghyd o bob rhan o’r wlad i arddangos celf, barddoniaeth, cerddoriaeth a diwylliant y genedl. Mae Owain wedi bod yn cystadlu mewn Eisteddfodau ers blynyddoedd, ond eleni roedd yn gallu cystadlu yn y categori actio unigol, i rai dros 19 oed, lle mae cystadleuwyr yn cyflwyno dwy fonolog wrthgyferbyniol yn Gymraeg mewn rhaglen wyth munud o hyd. Dewisodd Owain fonolog Haman yr Agagiad o Ester gan Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn 1960 a darn gan Davey o Killology Gary Owen o 2017. Dywedodd Owain, gan gysylltu ei gamp â’i astudiaethau yn y brifysgol, “Mae unrhyw ddrama dda yn dweud rhywbeth wrthych chi am natur wleidyddol ei chyd-destun ehangach, neu’n wir am y dramodydd ei hunan. Mae monolog Haman yn llythrennol am wleidyddiaeth! Mae'n pregethu wrth was am natur pŵer a sut mae gwleidyddiaeth yn cael ei sbarduno gan ddynion sydd eisiau gweithredu fel Duw. Mae Davey yn Killology yn gymeriad yn ei arddegau cynnar sy’n byw mewn tlodi. Mae'n chwarae gêm gyfrifiadurol sy'n gwobrwyo chwaraewyr am ladd pobl. Mae’r ddwy ddrama’n dweud rhywbeth hollbwysig am y gymdeithas y cawson nhw eu hysgrifennu ynddyn nhw a dyna oedd yn apelio ata i.” Enillodd Owain, sy’n hanu o Lanfairpwll, Ynys Môn, y wobr gyntaf o £500 yn y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau Owain, a phob lwc i chi gyda’ch astudiaethau a gyda chystadlaethau'r Eisteddfod yn y dyfodol!

Mae dirprwyaeth uwch farnwyr ac ynadon Kenya yng Nghaerdydd gyda'r Athro Ambreena Manji (dde) gyda'r Anrhydeddus. Arglwyddes Ustus Philomena Mbete Mwilu (chwith).

Cyllid a ddyfarnwyd ar gyfer rhaglen feistr yng Ngwyddoniaeth Farnwrol Kenya

30 Medi 2024

Bydd athro yn y gyfraith o Brifysgol Caerdydd yn allweddol wrth ddatblygu cwricwlwm Gwyddoniaeth Farnwrol arloesol yn Affrica yn dilyn cyllid a dderbyniwyd gan y Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Ryngwladol (ISPF).

Myfyrwyr Prifysgol Florida (UF) yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn croesawu myfyrwyr UDA i ysgol haf cyn y gyfraith

13 Awst 2024

Tra bod llawer o ysgolion yn croesawu’r amser segur dros yr haf, agorodd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ei drysau fis Gorffennaf eleni i grŵp o fyfyrwyr Americanaidd, a deithiodd i Gaerdydd ar gyfer haf o astudio.

Athro Norman Doe

Yr Academi Brydeinig yn ethol Athro Cyfraith Eglwysig yn Gymrawd

5 Awst 2024

Mae Athro yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn un o bedwar academydd ym Mhrifysgol Caerdydd i gael eu hethol yn Gymrodyr gan yr Academi Brydeinig ym mis Gorffennaf eleni.