Gweithio gyda San Steffan
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Bydd gweld sut mae'r Senedd yn gweithio yn eich helpu i ddeall y rhannau damcaniaethol o'ch gradd.
Rydym yn un o grŵp dethol o brifysgolion sy’n gweithio mewn partneriaeth â San Steffan i gynnig yr unig fodiwl ‘seneddol’ addysg uwch a gymeradwywyd yn ffurfiol gan Senedd y DU.
Wedi’i addysgu ar y cyd gan diwtoriaid yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a swyddogion o Senedd y DU, mae ein modiwl Astudiaethau Seneddol ar gael ar hyn o bryd yn nhrydedd flwyddyn ein graddau Gwleidyddiaeth (anrhydedd sengl a chydanrhydedd), ac mae’n archwilio sut mae Seneddau a deddfwrfeydd yn gweithredu, yn nhermau rheolau a gweithdrefnau ffurfiol, a phrosesau a pherthnasoedd anffurfiol sy'n deillio o ddiwylliannau, arferion a thraddodiadau. Sut mae deddfau'n cael eu creu? Sut mae ASau yn dwyn llywodraethau i gyfrif? O ba gefndiroedd y mae ASau yn dod, a beth mae bod yn AS yn ei olygu? Sut y gellid diwygio Tŷ’r Arglwyddi?
Prif ffocws y modiwl yw Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, ond mae’r modiwl hefyd yn ystyried Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd Ewrop, yn ogystal â phensaernïaeth a chynllun ffisegol deddfwrfeydd, a chynrychiolaeth y cyfryngau o sefydliadau o'r fath.