Ewch i’r prif gynnwys

Astudio dramor

Mae astudio dramor yn cynnig cyfle ichi gwrdd â phobl newydd a ffurfio cyfeillgarwch a chysylltiadau sy'n gallu para oes.

Pam astudio dramor?

Mae astudio dramor yn ei gwneud hi’n bosibl ichi ddyfnhau ac ehangu eich dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol trwy astudio mewn gwlad wahanol, ac ymdrin â'ch astudiaethau trwy safbwyntiau diwylliannol a deallusol eraill. Gall astudio dramor nid yn unig fod o fudd i’ch astudiaethau a’u cyfoethogi, ond mae hefyd yn cynnig cyfle sylweddol ichi ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol: byddwch chi’n cael profiad o fyw mewn gwlad wahanol ac astudio mewn diwylliant gwahanol, a allai gynyddu eich hyder a'ch annibyniaeth. Mae llawer o gyflogwyr yn edrych am raddedigion sydd â'r profiadau ehangach a'r sensitifrwydd rhyngddiwylliannol y gall blwyddyn o astudio dramor eu cynnnig.

Ble galla i astudio dramor?

Ar hyn o bryd mae gan yr adran gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol bartneriaethau astudio dramor gyda nifer o brifysgolion Ewropeaidd yn Sbaen, Ffrainc, yr Iseldiroedd, yr Almaen, a Tsiecia. Rydyn ni wedi anfon myfyrwyr i wledydd y tu hwnt i Ewrop o’r blaen, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Awstralia, Hong Kong a Chanada. Sylwer bod y rhestr o leoliadau y tu hwnt i Ewrop yn newid bob blwyddyn, felly anogir myfyrwyr i wirio gyda'r Ysgol am restr wedi'i diweddaru o gyrchfannau. Yn Saesneg fydd eich astudiaethau’n cael eu cynnal.

Pwy all wneud cais a beth yw'r broses?

Yn ystod eu hail flwyddyn, gall myfyrwyr ar y rhaglenni anrhydedd sengl mewn Gwleidyddiaeth (L200), Gysylltiadau Rhyngwladol (305Q), neu Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth (BSc Econ) L290 wneud cais i astudio dramor. Cyflwynir ceisiadau ar ddiwedd semester 1 ym Mlwyddyn 2, a gwneir penderfyniadau yn gynnar yn y semester canlynol.

Bydd dewis gwneud blwyddyn dramor yn golygu y bydd eich gradd yn ymestyn o fod yn un 3 blynedd i un 4 blynedd. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich gradd yn newid i fod yn Radd Baglor gyda blwyddyn yn astudio dramor, a byddwch chi’n treulio'ch trydedd flwyddyn yn y brifysgol bartner, gan ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer eich pedwaredd flwyddyn a'ch blwyddyn olaf.