Cyfleoedd Cymraeg
Nod Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i raddedigion allu gweithredu’n effeithiol ym maes y Gyfraith yn y Gymru fodern.
Mae datblygiadau cyfreithiol diweddar, yn cynnwys dyfodiad datganoli i Gymru, wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y galw am gyfreithwyr dwyieithog yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. O ganlyniad, mae cyflogwyr yng Nghymru yn croesawu cyfreithwyr dwyieithog gan fod yna alw amdanynt ymhlith cleientiaid Cymraeg.
Gallwch astudio gradd gymhwyso yn y Gyfraith yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un o’n rhaglenni israddedig. Neu gallwch astudio rhan o’ch gradd cymhwyso drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhelir dosbarthiadau tiwtorial ym mhob un o’r modiwlau craidd dros dair blynedd eich gradd:
Modiwlau
Blwyddyn 1
- Sylfeini'r Gyfraith (20 neu 30 credyd)
- Cyfraith Gyhoeddus (20 neu 30 credyd)
- Cyfraith Contract (20 neu 30 credyd)
- Cyfraith Trosedd (20 neu 30 credyd)
Blwyddyn 2
- Cyfraith Camwedd (20 neu 30 credyd)
- Datganoli yng Nghymru (10 credyd)
- Cyfraith Tir (20 neu 30 credyd)
Blwyddyn 3
- Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (20 neu 30 credyd)
- Traethawd Hir (20 neu 30 credyd)
- Cyfraith Ymddiriedolaethau (20 neu 30 credyd)
Mae cyflogwyr yng Nghymru yn croesawu cyfreithwyr dwyieithog gan fod yna alw amdanynt ymhlith cleientiaid Cymraeg.
Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig nifer o ysgoloriaethau i’r sawl sy’n bwriadu astudio yn Gymraeg.
Bydd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn helpu eich gyrfa ac yn agor drysau newydd i chi y y Brifysgol a thu hwnt.