Astudio dramor

Mae astudio dramor yn cynnig cyfle ichi gwrdd â phobl newydd a ffurfio cyfeillgarwch a chysylltiadau sy'n gallu para oes.
Pam astudio dramor?
Mae byw a dysgu mewn gwlad wahanol yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanyn nhw ymysg cyflogwyr. Gallai'r rhain gynnwys:
- safbwyntiau rhyngwladol, Ewropeaidd a thrawsddiwylliannol wrth astudio’r gyfraith
- gwytnwch a’r gallu i ymaddasu i wahanol ddiwylliannau
- sgiliau iaith ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol
- annibyniaeth a chyfrifoldeb
- sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu
- cyfathrebu rhyngddiwylliannol
Ble galla i astudio dramor?
Ar hyn o bryd, mae gan adran y gyfraith bartneriaethau astudio dramor gyda phrifysgolion ym Madrid (Sbaen), Prague (y Weriniaeth Tsiec), Munster (yr Almaen) a Florida (UDA). Mae’r astudiaethau’n cael eu cynnal yn y Saesneg.
Pwy all wneud cais a beth yw'r broses?
Gall myfyrwyr y gyfraith ar y rhaglen M100 wneud cais i astudio dramor yn eu hail flwyddyn. Cyflwynir ceisiadau ar ddiwedd semester 1 ym Mlwyddyn 2, a gwneir penderfyniadau yn gynnar yn y semester canlynol.
Bydd dewis gwneud blwyddyn dramor yn golygu y bydd eich gradd yn ymestyn o fod yn un 3 blynedd i un 4 blynedd. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich gradd yn newid i fod yn ‘LLB yn y Gyfraith gyda blwyddyn yn astudio dramor’, a byddwch chi’n treulio'ch trydedd flwyddyn yn y brifysgol bartner, gan ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer eich pedwaredd flwyddyn a'ch blwyddyn olaf.