Tystysgrif Tyst Arbenigol
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym yn gyfrifol am asesu, sicrhau ansawdd ac ardystio rhaglen hyfforddi tyst arbenigol ffurfiol mewn partneriaeth â Bond Solon – prif ddarparwr hyfforddiant tyst arbenigol y DU.
Mae Bond Solon yn cynnig tair tystysgrif tyst arbenigol ym maes y gyfraith sifil, droseddol a theuluol.
Lansiwyd Tystysgrif Tyst Arbenigol CUBS (Prifysgol Caerdydd Bond Solon) yn y 2000au cynnar ac mae’n cael ei hystyried yn eang fel y safon euraidd yn y diwydiant. Hyd yma, mae dros 2,750 o arbenigwyr o amrywiaeth o broffesiynau wedi cwblhau neu wrthi’n cwblhau un neu fwy o’r tystysgrifau.
Asesir Tystysgrif CUBS gan staff o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd ac, os ydynt yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr yn derbyn tystysgrif cymhwysedd sy’n dangos i’r partïon cyfarwyddo a’r llysoedd eu bod yn gymwys i gyflawni rôl y tyst arbenigol.
Dysgwch ragor am y Dystysgrif ar wefan Bond Solon.
Sylwer nad yw Tystysgrif CUBS yn Wobr Prifysgol Caerdydd sy’n dwyn credyd. Mae Prifysgol Caerdydd yn darparu gwasanaethau asesu’n unig i Bond Solon ac mae rheolau a rheoliadau Bond Solon yn gymwys i ymgeiswyr sy’n ymgymryd â’r Dystysgrif Tyst Arbenigol.