Duty Solicitors
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae aelodaeth Cam 1 o Gynllun Achredu Cyfreithiad Troseddol (CLAS) Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ofynnol gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol er mwyn cael cymryd rhan yn y cynllun cyfreithiwr ar ddyletswydd ar gyfer gorsafoedd heddlu a llysoedd yr ynadon.
Rhaid i gyfreithwyr sicrhau dau gymhwyster ar wahân i fodloni Cymdeithas y Gyfraith eu bod yn addas i ddod yn aelod o CLAS. Y rhain yw Cymhwyster Gorsaf yr Heddlu (PSQ) a Chymhwyster Llys yr Ynadon (MCQ).
Caiff cyfreithwyr sy'n cwblhau asesiadau Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsafoedd yr Heddlu'n llwyddiannus cyn cymhwyso'n gyfreithiwr wneud cais i Gymdeithas y Cyfreithwyr i gael eu heithrio o'r asesiadau PSQ.
Gall bargyfreithwyr ddod yn aelodau o CLAS. Os ydych chi'n fargyfreithiwr sy'n dymuno ymuno â'r Cynllun Cyfreithiwr ar Ddyletswydd, mae angen i chi gwblhau Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsafoedd yr Heddlu (PSRAS) a Chymhwyster Llys yr Ynadon. Yna dylech ymgeisio i'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol i gael eich cynnwys ar y rota.
Cymhwyster Llys yr Ynadon
Mae'r cynllun hwn yn ymdrin ag achredu cyfreithwyr sy'n cynrychioli diffynyddion yn Llys yr Ynadon.
Mae Cymhwyster Llys yr Ynadon (MCQ) yn un elfen o Gynllun Achredu Ymgyfreitha Troseddol Cymdeithas y Cyfreithwyr ar gyfer cyfreithwyr ar ddyletswydd.
Mae'r cynllun yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth y cyfreithiwr o gyfraith a gweithdrefnau trosedd, cyfraith a gweithdrefn mewnfudo berthnasol a rheolau tystiolaeth. Ceir manylion llawn y safonau cymhwysedd sydd eu hangen ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Ceir dwy elfen yn y cynllun a gaiff eu hasesu. Rhaid cwblhau'r ddwy’n llwyddiannus. Y rhain yw'r Portffolio o Achosion a'r Asesiad Cyfweliad ac Eiriolaeth.
Gellir cwblhau elfennau'r asesiad mewn unrhyw drefn, ond rhaid cwblhau'r ail yn llwyddiannus o fewn blwyddyn i basio'r elfen gyntaf
Amserlen cynllun achredu Cymhwyster Llys yr Ynadon
Gweler ein hamserlen asesu a hyfforddi.
- Rhaid i chi gofrestru gyda ni o leiaf 10 diwrnod cyn y dyddiad hyfforddi/asesu a ddewiswch.
- Os byddwch yn canslo llai na 14 diwrnod cyn y dyddiad hyfforddi/asesu bydd rhaid talu'r ffi gyflawn.
- Bydd gweddill y ffioedd ar gyfer pob asesiad neu sesiwn hyfforddi'n daladwy bythefnos cyn y disgwylir i chi ymgymryd â'r asesiad neu'r sesiwn hyfforddi
Sut i wneud cais
Cwblhewch ein ffurflen gofrestru a'i hanfon i:
Uned Datblygiad Proffesiynol
Canolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd
Prifysgol Caerdydd
Rhodfa'r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX
MCQ registration form 2024
MCQ Registration form
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cysylltu â ni
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: