Ôl-raddedig a Addysgir
Dilynwch gwrs astudio ôl-raddedig ac ymgysylltu gydag academyddion cyfreithiol blaenllaw ym maes ymarfer y gyfraith.
Rydym yn gartref i gorff o fyfyrwyr bywiog ac yn cynnig cyrsiau sydd at ddant amrywiaeth o ddiddordebau, cefndiroedd a dyheadau. Mae gennym amrywiaeth hyblyg o raglenni sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan amser.
Drwy ein rhaglen LLM gallwch elwa mewn sawl ffordd:
- ymgysylltu gyda staff ymchwil sy'n flaenllaw iawn yn rhyngwladol
- cael eich dysgu gan staff arbenigol a phrofiadol
- astudio amrywiaeth eang o fodiwlau sy'n hyblyg
- derbyn cefnogaeth fugeiliol drwy ein cynllun tiwtor personol
- y cyfleusterau e-ddysgu diweddaraf, sydd yn hygyrch o unrhyw le
- cael profiad o'r gyfraith ar waith drwy ein Cynllun Pro Bono a'r Prosiect Dieuogrwydd
- rhaglen hyfforddi sgiliau pwrpasol
- lle bod angen, cynigir cefnogaeth sgiliau ysgrifennu i fyfyrwyr nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt
- Cynllunio Datblygiad Personol i werthuso eich cynnydd
Gallwch ddewis astudio LLM sy'n arbenigo mewn un o'r meysydd a restrwyd isod, neu gallwch chi astudio'r gyfraith heb arbenigo, drwy ddewis o'r rhestr modiwlau sydd ar gael.
Y cyrsiau a addysgir sydd ar gael
Mae’r Brifysgol yn cynnig Cynllun Ysgoloriaeth Ôl-raddedig a Addysgir i gynorthwyo myfyrwyr Cartref a’r UE sydd eisiau astudio rhaglen Meistr.