Ewch i’r prif gynnwys

Y Gyfraith

Yn cael ein hadnabod am ein hymchwil cyfreithiol-gymdeithasol a'n hacademyddion sydd ag enw da yn rhyngwladol, bydd dewis y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn eich rhoi chi yng nghanolfan dinesig a chyfreithiol prifddinas Cymru.

Mae'r Gyfraith yn bwnc heriol a gwerth chweil sy'n rhoi amrywiaeth o sgiliau i chi sy'n addas ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Dyluniwyd ein cyrsiau i'ch galluogi chi i gyflawni eich potensial academaidd a galwedigaethol. Mae astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos eich ymrwymiad i ragoriaeth a byddwch yn derbyn cefnogaeth ein staff cyfeillgar sy'n barod i'ch helpu chi i greu eich dyfodol.

Rydym yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn cynnig amgylchedd cymwynasgar, cefnogol ac sy'n amrywiol yn ddiwylliannol i chi astudio ynddo.

Israddedig

Israddedig

Astudiwch y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd i ennill profiad ymarferol o'r pwnc yn y byd go iawn. Byddwch yn elwa o'n dysgu cyfreithiol a arweinir gan ymchwil rhagorol ac yn profi ein cyfuniad unigryw o hyfforddiant academaidd a phroffesiynol.

Ôl-raddedig a Addysgir

Ôl-raddedig a Addysgir

Ymgysylltwch gydag academyddion cyfreithiol o bob cwr o'r byd sy'n flaenllaw ym myd ymarfer y gyfraith.

Ymchwil ôl-raddedig

Ymchwil ôl-raddedig

Ymunwch â'r genhedlaeth nesaf o ysgolheigion cyfreithiol a chyfrannu at waith ymchwil arloesol mewn ystod eang o feysydd.

Rhaglenni proffesiynol

Rhaglenni proffesiynol

Gallwch ymgymryd â holl agweddau eich hyfforddiant cyfreithiol proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cyfleoedd Cymraeg

Cyfleoedd Cymraeg

Mae cyflogwyr yng Nghymru yn croesawu cyfreithwyr dwyieithog gan fod yna alw amdanynt ymhlith cleientiaid Cymraeg.

Astudio dramor

Astudio dramor

Mae astudio dramor yn cynnig cyfle ichi gwrdd â phobl newydd a ffurfio cyfeillgarwch a chysylltiadau sy'n gallu para oes.