Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
- 90% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22) (Israddedig)*
- 95% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22) (Ôl-raddedig)*
O’r sector cyhoeddus i’r sector preifat, rydym yn cynnig gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd.
Mae ein graddedigion gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn defnyddio eu sgiliau newydd mewn sbectrwm eang o swyddi yn y cyfryngau, gwasanaethau archwilio, treth a chynghori, y gwasanaeth sifil, gwleidyddiaeth, ymchwil i’r farchnad ac addysgu.
Mae llawer o’n graddedigion yn y Gyfraith yn dilyn gyrfaoedd sy’n ymwneud â’r gyfraith ac maent bellach yn gyfreithwyr dan hyfforddiant, yn baragyfreithwyr, yn gynorthwywyr cyfreithiol, yn weithwyr cymorth, ac yn drawsgludwyr trwyddedig. Fodd bynnag, mae graddedigion eraill y Gyfraith wedi defnyddio’r sgiliau cyflogadwyedd a enillwyd ganddynt yn y brifysgol i ddechrau gyrfaoedd mewn sectorau fel cyfrifeg, bancio, yswiriant, recriwtio, addysgu, a gwasanaeth yr heddlu.
Cymorth gyrfaol yn y dyfodol
Mae adran Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'n myfyrwyr ar bob cam o'u gradd, gan ddarparu ystod o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â gyrfa wedi'u teilwra trwy’r flwyddyn. Beth bynnag yw eich uchelgais o ran gyrfa, gallwn eich rhoi ar ben ffordd gyda'n hamrywiaeth o weithgareddau â ffocws penodol ar yrfaoedd a chyflogadwyedd.
Mae’r Tîm Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig ystod eang o wasanaethau drwy gydol y flwyddyn. Ein nod yw helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, cynllunio at y dyfodol, a bod yn barod i gychwyn byd gwaith. Wedi'i leoli yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr ac yn agored i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ein gwasanaethau'n cynnwys y canlynol:
- cyfres eang o adnoddau ar-lein gan gynnwys Dyfodol Myfyrwyr+, y lleoliad ar gyfer gwybodaeth am yrfaoedd, a chyngor ac adnoddau wedi'u teilwra i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd
- gweithdai cyflogadwyedd ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ymchwilio i opsiynau o ran gyrfa, CVs, ceisiadau, LinkedIn, paratoi ar gyfer cyfweliadau a llawer mwy
- apwyntiadau y gallwch chi eu trefnu ymlaen llaw gyda Chynghorwyr Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, yn ogystal â’r gwasanaeth galw heibio gyda Chynorthwywyr Dyfodol Myfyrwyr
- Rhaglen datblygu proffesiynol Gwobr Caerdydd
- mynediad at ystod o gyfleoedd i gael profiad gwaith, gwneud interniaethau ac ymgymryd â lleoliadau gwaith
- cefnogaeth bwrpasol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol un i un arnyn nhw
- ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau dan arweiniad cyflogwyr i hwyluso rhwydweithio gyda’r cyflogwyr graddedigion gorau a thrafodaethau ar yrfaoedd a chyfleoedd swyddi
- cyfleoedd i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor
- mentora busnes, gwobrau dechrau busnes, desgiau gweithio dros dro a chyfleoedd menter
Cysylltu â ni
Gallwch ddod o hyd i Ddyfodol Myfyrwyr ar lawr cyntaf Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar Blas y Parc.
I gael gwybodaeth benodol am feysydd ein pynciau, cysylltwch â Helen McNally:
* Canlyniadau Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22, a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig (HESA). Hawlfraint Jisc 2024. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.