Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth a democratiaeth

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae ein clwstwr Newyddiaduraeth a democratiaeth yn ymchwilio i ecoleg newyddion sy'n datblygu'n gyflym ar draws pob math o newyddiaduraeth drwy ymchwilio i lwyfannau sy'n dod i'r amlwg, technolegau newydd ac ymddygiadau newidiol defnyddwyr.

Mae staff academaidd o'r clwstwr hwn yn ymchwilio i faterion cymdeithasol dybryd ac yn ymgysylltu â nhw, gan gydweithio â sefydliadau cyfryngau, cyfranogwyr y llywodraeth, elusennau a sefydliadau polisi i gyflawni canlyniadau ac argymhellion amserol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar bolisi ac ymarfer.

Mae pynciau ymchwil yn cynnwys didueddrwydd newyddion darlledu, Brexit, sylw i fewnfudo ac etholiadau, adrodd am ryfel a gwyddoniaeth.

Ymchwil genedlaethol a rhyngwladol

Adlewyrchir ein hymchwil yng ngwaith parhaus Dr Mike Berry, Dr Kerry Moore a Dr Inaki Garcia-Blanco ar faterion yn ymwneud â ffoaduriaid, ymchwil Dr Mike Berry a Matt Walsh ar gyni a'r argyfwng ariannola gwaith Dr Cindy Carter ar rywedd a phlant yn y newyddion .

Mae ein hymchwil hefyd yn cael ei defnyddio mewn cyd-destunau lleol a byd-eang, megis adroddiad Dr Kerry Moore am dlodi yng Nghymru, dadansoddiadau Dr Galina Miazhevich o rywioldeb yn Nwyrain Ewrop, gwaith Dr Jimenez-Martinez ar genedlaetholdeb yn America Ladina gwaith Dr Maria Kyriakidou ar ddioddefaint wedi’i gyfryngu mewn cyd-destunau byd-eang.

Yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, chwaraeodd prosiect yr Athro Stephen Cushion o 2019, 'Enhancing the accuracy and impartiality of journalism: reshaping broadcasters’ editorial guidelines and practices', ran bwysig drwy helpu i lywio adroddiadau darlledwyr am ddatblygiadau polisi ledled y DU, lle roedd Iechyd, sy’n fater datganoledig yn y DU, yn golygu bod amrywiadau cenedlaethol o ran polisïau a’r ffordd y cawsant eu rhoi ar waith.

Canolfannau ymchwil weithredu

Defnyddiwyd y clwstwr fel man i ddatblygu’r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, a sefydlwyd yn 2013, mewn ymateb i ymchwil a nododd y potensial ar gyfer newyddiaduraeth gymunedol a hyperleol. Mae'r ganolfan yn cyfuno ymchwil draddodiadol, ymchwil sy'n canolbwyntio ar weithredu, hyfforddiant a phrosiectau allgymorth i ddatblygu modelau newydd o gynhyrchu newyddion lleol. (Link to Impact case study)

Mae hefyd wedi cefnogi elfennau pwysig o waith rhyngddisgyblaethol megis y Ganolfan Ymchwil Coma ac Anhwylderau Ymwybyddiaeth - a sefydlwyd yn wreiddiol i ystyried cynrychiolaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o gyflyrau diymateb a lled-anymwybodol. Mae bellach wedi ehangu i gydweithrediadau rhyngddisgyblaethol gyda'r gyfraith, meddygaeth, niwrowyddorau ac athroniaeth i fynd i'r afael ag arferion cyfreithiol, clinigol, moesegol a gwyddonol a phroffil cyhoeddus 'ymwybyddiaeth' a’r broses o wneud penderfyniadau cymhleth ar ddiwedd oes.