Ewch i’r prif gynnwys

Trechu diffyg democrataidd newyddion lleol

Mae’r Ganolfan dros Newyddiaduraeth Gymunedol wedi rhoi hwb i newyddion lleol trwy gychwyn y corff ffurfiol cyntaf i eirioli ar ran y sector, gan ennill cymorth gwladol a chael gafael ar £300,000 yn sgîl ariannu allanol.

Mae rôl ddemocrataidd werthfawr i siopau newyddion preifat bellach mewn cymunedau lle mae llai a llai o bapurau newydd traddodiadol.

Dros gyfnod maith, mae Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Materion Diwylliannol wedi dadansoddi mwy o gynnwys lleol na neb arall yn ogystal â nodi mai ansicrwydd economaidd a phrinder hyfforddiant a chymorth yw prif anawsterau newyddiadurwyr lleol.

Pile of newspapers next to a laptop

Sefydlwyd y Ganolfan dros Newyddiaduraeth Gymunedol yn 2014 i fynd i’r afael â’r anawsterau hynny a bod yn ganolbwynt i ymchwil ar y cyd â budd-ddalwyr y sector. Mae AHRC, Llywodraeth Cymru a Google wedi buddsoddi £300,000 yn y ganolfan hyd yn hyn.

Sefydlodd y ganolfan Rwydwaith y Newyddion Cymunedol Annibynnol yn 2018 i eirioli ar ran cyhoeddwyr cymunedol y DU. Y rhwydwaith hwnnw oedd corff cynrychioli cyntaf y sector ac mae’n cynrychioli dros 125 o deitlau ac iddyn nhw dros bum miliwn o ddarllenwyr ledled y DU bellach.

Eiriolaeth ac effaith

Fe roes un o weithwyr y ganolfan, y Dr Andy Williams, dystiolaeth i ymchwiliad y Senedd i newyddiaduraeth yn 2017 a 2018. Dangosodd ei ymchwil fod angen rhoi cymorth ariannol i’r sector, a dyrannwyd £200,000 dros ddwy flynedd i gynnal sector newyddion lleol y wlad trwy Gronfa’r Newyddiaduraeth Gymunedol Annibynnol. Wedi hynny, lluniodd y ganolfan adroddiad ar y cyd ynghylch ariannu trwy’r gronfa honno, gan bennu y byddai aelodaeth o’r rhwydwaith yn un o’r meini prawf ar gyfer derbyn arian.

Mae adborth rhai sydd wedi derbyn arian wedi nodi pwysigrwydd ac effaith y gronfa.

[Mae gwaith y rhwydwaith gyda Llywodraeth Cymru] wedi bod yn amhrisiadwy i mi ... Doedd dim arian gyda fi i hysbysebu neu hybu [...], diweddaru’r brand na phroffesiynoli’r gwasanaeth. Gyda'r arian a ges i, rwyf i wedi cyflawni hynny i gyd... ac mae’n fwy tebygol y byddwn ni’n codi incwm trwy hysbysebu o hyn ymlaen.
Tysteb gan olygydd lleol

Adnoddau cyfreithiol a digidol am ddim

Doedd dim templed addas ar y we i bobl a hoffai gyhoeddi newyddion lleol ac, felly, lluniodd y ganolfan dempled dwyieithog cyntaf y byd ar gyfer newyddiaduraeth gymunedol yn 2015.

Cadarnhaodd un cyhoeddwr fod y templed yn “un o’r adnoddau pwysicaf rydyn ni wedi’u defnyddio” a bod hyfforddiant WordPress trwy’r ganolfan wedi “gwella medrau ein gwirfoddolwyr ac arbed miloedd o bunnoedd i ni.”

Mae’r ganolfan yn cynghori aelodau’r rhwydwaith ar y gyfraith am ddim hefyd, gan roi cynghorion dros gant o weithiau ers ei sefydlu. Meddai staff y Guildford Dragon, “Rydyn ni wedi arbed arian, am nad oedd angen hel cynghorion cyfreithiol allanol costus, a llwyddo i ddod i gytundeb yn gynnar â rhai oedd yn bygwth mynd i’r gyfraith".

Gwasanaeth byd-eang

Mae’r ganolfan wedi hyfforddi dros 38,000 o bobl ers 2015. Trwy ei chwrs newyddiaduraeth gymunedol ar-lein, er enghraifft, mae wedi dysgu dros 32,000 o bobl o 131 o wledydd megis yr India, Brasil, Nigeria, Awstralia, UDA, Rwsia a Sbaen.

Cymorth amserol yn ystod argyfwng COVID-19

Gan sylweddoli y gallai cyfnod clo amharu ar newyddion cymunedol, gofynnodd y ganolfan i Lywodraeth Cymru ryddhau gweddill yr arian yng Nghronfa’r Newyddiaduraeth Gymunedol Annibynnol. O ganlyniad, derbyniodd pob aelod yng Nghymru £8,000 yn syth trwy gymhorthdal argyfwng.

Dywedodd un golygydd: “Heb y rhwydwaith, fuasai dim arian COVID-19 o gwbl, heb sôn am ei ailddyrannu, ac rwy’n credu y byddai rhai o gyfryngau annibynnol Cymru wedi crebachu neu gau, hyd yn oed, pe na bai cymorth.”

Ymchwil, argymhellion ac effaith yn y byd go iawn

Mae’r ganolfan a’r rhwydwaith wedi llunio a chyhoeddi argymhellion ar newyddiaduraeth gymunedol i wneud y gorau o siopau cymunedol trwy eirioli, cynrychioli, hyfforddi, cynghori ac adnoddau.

Mae hynny wedi galluogi canfyddiadau ‘ymchwil trwy weithredu’ i gyflawni rôl hanfodol ynghylch diogelu datblygiad a chynaladwyedd y sector newyddion pwysig hwn.

Meet the team

Key contacts