Cyfryngau digidol a chymdeithas
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae ein thema ymchwil Cyfryngau digidol a chymdeithas yn ymgysylltu â’r croestoriad o ddatblygiadau technolegol a chymdeithasol newydd, megis rôl cyfryngau cymdeithasol, trawsnewidiadau mewn diwylliant digidol, mathau newydd o wleidyddiaeth ar-lein, a chasglu a defnyddio data.
Ers ei sefydlu yn 2014 mae'r thema yn dwyn ynghyd gasgliad amrywiol o ymchwilwyr sy'n archwilio agweddau a dynameg cymdeithas ddigidol sy'n newid yn barhaus o safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, astudiaethau diwylliannol a newyddiaduraeth. Maent yn archwilio arferion arloesol, megis gweithrediaeth ar-lein a diwylliannau cefnogwyr, ac yn archwilio'n feirniadol oblygiadau isadeileddau digidol ar gyfer hawliau dinesig, cyfiawnder cymdeithasol a democratiaeth.
Mae monograffau ymchwil o'r thema hwn yn cynnwys: Digital Citizenship in a Datafied Society (Arne Hintz, Lina Dencik, Karin Wahl-Jorgensen, 2019); The Digital Lives of Black Women in Britain (Francesca Sobande, 2020) a Hybrid Media Activism (Emiliano Treré, 2018).
Lab Cyfiawnder Data
Mae rôl gynyddol data mawr mewn cymdeithasau cyfoes wedi ffurfio ffocws penodol i'r thema ymchwil hwn. Ers ei lansio yn 2017, mae'r Lab Cyfiawnder Data wedi ymchwilio i'r cydberthnasau rhwng dataeiddio a chyfiawnder cymdeithasol, gan dynnu sylw at wleidyddiaeth ac effeithiau prosesau sy'n cael eu hysgogi gan ddata.
Mae ei ymchwil barhaus yn archwilio goblygiadau defnydd sefydliadol o ddata, yn darparu ymatebion beirniadol i achosion o gamddefnyddio data a niwed sy’n gysylltiedig â data, ac yn archwilio llwybrau ar gyfer democrateiddio cymdeithasau sydd wedi’u dataeiddio. Mae'n cynnal cyfres lyfrau ar Gyfiawnder Data (gyda Sage Publications) ac yn trefnu cynhadledd bob dwy flynedd.
Mae'r lab wedi ennill buddsoddiad o dros £1.5 miliwn gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Open Society Foundations ar gyfer prosiectau ymchwil gwahanol a ariennir. Cynhelir ymchwil ar draws cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol gyda phartneriaid academaidd a rhwydweithiau cyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys undebau llafur/hawliau llafur a grwpiau undod â mudwyr.
Mae gwaith y lab wedi cael ei ddefnyddio gan sefydliadau fel yr Open Rights Group ac Algorithm Watch, mae wedi cael ei ddyfynnu mewn trafodaethau polisi allweddol megis Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Wyddoniaeth a Thechnoleg, ac mae wedi cyfrannu at ymchwiliadau mawr, gan gynnwys gan Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol ac effeithiau cyni yn y DU.