Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Tîm o ysgolheigion rhyngwladol ydym ni, sy’n hyrwyddo gwaith ymchwil ym meysydd newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant, trwy berthnasoedd gyda’r gymuned academaidd fyd-eang, yn ogystal â threfniadau cydweithio gyda’r diwydiannau creadigol, cyrff llunio polisi, elusennau a grwpiau cymdeithas sifil.

Rydym ni’n dadansoddi polisi’r cyfryngau, cynrychiolaethau ac arferion, gyda ffocws ar heriau yn awr ac yn y dyfodol.

Ein themâu ymchwil

Trefnir ein hymchwil o amgylch themâu sy’n gorgyffwrdd, yn cefnogi synergedd deallusol, cynnig am grantiau a gweithgareddau sy’n cael effaith.

Journalism and democracy

Newyddiaduraeth a democratiaeth

Mae ein thema Newyddiaduraeth a democratiaeth yn ymchwilio i ecoleg newyddion sy'n datblygu'n gyflym ar draws pob math o newyddiaduraeth drwy ymchwilio i lwyfannau sy'n dod i'r amlwg, technolegau newydd ac ymddygiadau newidiol defnyddwyr.

Digital Media and Society

Cyfryngau digidol a chymdeithas

Mae ein thema ymchwil Cyfryngau digidol a chymdeithas yn ymgysylltu â’r croestoriad o ddatblygiadau technolegol a chymdeithasol newydd, megis rôl cyfryngau cymdeithasol, trawsnewidiadau mewn diwylliant digidol, mathau newydd o wleidyddiaeth ar-lein, a chasglu a defnyddio data.

Media, culture and creativity

Y cyfryngau, diwylliant a chreadigrwydd

Mae thema y cyfryngau, diwylliant a chreadigrwydd yn cynrychioli maes canolbwyntio newydd i'r Ysgol ac yn dwyn ynghyd ystod eang a rhyng-gysylltiedig o arferion, polisïau ac astudiaethau ar draws y cyfryngau a'r diwydiannau diwylliannol.

Ymchwil ryngddisgyblaethol

Mae ein hymchwil yn elwa o drefniadau cydweithio rhyngddisgyblaethol gyda disgyblaethau megis y gwyddorau iechyd, seicoleg, cyfrifiadureg, y gyfraith a meddygaeth.

Rydym hefyd yn gweithio gydag ysgolion academaidd eraill ar draws Prifysgol Caerdydd i sicrhau dyfarniadau ar y cyd, ochr yn ochr â chefnogi prosiectau dan arweiniad ysgolion eraill.

Yr Amgylchedd Ymchwil

Mae ein diwylliant ymchwil yn deillio o ddull cydweithredol ein staff a’n myfyrwyr ymchwil, lle mae datblygiad personol a phroffesiynol yn rhan hanfodol o’n llwyddiant ar y cyd.

Un o brif gryfderau ein hamgylchedd yw’r ddeialog rhwng staff ymchwil a’r rhai sy’n canolbwyntio ar ymarfer. Mae hyn yn ein helpu i gyflawni ymchwil dylanwadol o ran ymarfer a pholisi yn y byd ehangach.

Mae dros draean o’n staff yn dod o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, ac mae hynny’n cyfrannu at ein gweithgareddau ymchwil lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Ymchwil ddoethurol ac ôl-ddoethurol

Mae ein Hysgol yn gartref i garfan amrywiol o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a chymrodorion ymchwil o bob rhan o'r byd, gan gynnwys llawer sydd wedi cael cyllid trwy gynghorau ymchwil hynod gystadleuol ac sy'n elwa ar oruchwyliaeth gan ysgolheigion rhyngwladol blaenllaw ac adnoddau Academi Ddoethurol y Brifysgol.

Mae ein rhaglen PhD/MPhil cyffredinol yn cefnogi myfyrwyr sy’n astudio ystod eang o bynciau ym meysydd Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.

Cysylltu â ni

Ymchwil yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant