Mae rhaglen meistr newydd arloesol mewn Deallusrwydd Artiffisial a chynhyrchu cyfryngau digidol wedi’i chyhoeddi gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd ar gyfer mis Medi 2025.
Mae canllawiau cenedlaethol a rhyngwladol wedi tanlinellu statws Prifysgol Caerdydd yn ysgol ragoriaeth ar gyfer astudiaethau newyddiaduraeth a chyfathrebu.