Darlithoedd Syr Tom Hopkinson
Mae Darlithoedd Syr Tom Hopkinson yn anrhydeddu un o arloeswyr newyddiadurol Prydain a sylfaenydd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.
Dechreuodd Henry Thomas Hopkinson ei yrfa newyddiadurol yn Weekly Illustrated, a arloesodd wrth gyflwyno ffotonewyddiaduraeth i’r wasg yn y DU ac yn ddiweddarach Picture Post, lle cafodd ei benodi’n Olygydd ym 1940.
Roedd Picture Post yn gylchgrawn newyddion rhyngwladol hynod lwyddiannus, yn cario traethodau ffotograffau arloesol o’r Ail Ryfel Byd ac yn sbarduno trafodaethau cyhoeddus ynghylch ailadeiladu blaengar ar ôl y rhyfel.
Ym 1950, yn gynnar yn Rhyfel Corea, ceisiodd Hopkinson gyhoeddi stori a oedd yn feirniadol o driniaeth annynol llywodraeth De Corea o POWs; ceisiodd perchennog y cylchgrawn ladd y stori yn gyntaf ac yna ei ddiswyddo.
Roedd sylw eang yn y wasg yn amddiffyn ymdrech Hopkinson i gyflawni ei ‘ddyletswydd gyhoeddus’ wrth gyhoeddi ffeithiau stori ddadleuol.
Yn dilyn hynny, symudodd i Dde Affrica, gan ddod yn Olygydd cylchgrawn Drum ac yn feirniad brwd o apartheid.
Ym 1960 cyhoeddodd y ffotograffau cyntaf o gyflafan Sharpeville, lle cychwynnodd yr heddlu danio ar brotestwyr di-arfog, gan ladd 69 ac anafu cannoedd yn rhagor.
Ar ôl iddo adael Drum, bu’n dysgu newyddiaduraeth mewn prifysgolion cyn dod yn gyfarwyddwr sefydlu’r Ganolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd rhwng 1970au a 1975. Cafodd ei urddo’n farchog ym 1978.
Roedd Hopkinson yn eiriol dros swyddogaeth newyddiaduraeth mewn cymdeithas ddemocrataidd, gan ddweud: “Gwasg rydd yw gwarcheidwad mwyaf gwyliadwrus y wladwriaeth. Mae gwasg ‘ie’ yn angheuol i lywodraeth dda”. Mae’r geiriau hyn wedi’u hysgrifennu’n fawr ar du allan yr ysgol ac yn sail hyd Heddiw i’n dysgu ac ymchwil.
Laura Trevelyan 2024
Cyflwynodd y newyddiadurwr, ymgyrchydd cyfiawnder a chyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Laura Trevelyan, Ddarlith Syr Tom Hopkinson gyntaf ddydd Mercher 6 Mawrth 2024.
Trafododd y ddarlith, 'Wynebu'r Gorffennol - pwysigrwydd cydnabod ac atgyweirio', pam y bu'n bwysig i deulu Trevelyan wynebu gorffennol eu hynafiaid fel perchnogion caethweision ar ynys Grenada yn y Caribî.
Heriodd Laura sefydliadau Prydain i drafod eu cysylltiadau â'r fasnach gaethweision a symud yn gyflym i ddiogelu dyfodol dogfennau hanesyddol prin.