Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
Rydym yn eich annog i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf, gan gynnig modiwlau a chymorth i roi mantais gystadleuol i chi ar ôl graddio.
94% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22).
Cymorth gyrfaol pwrpasol
Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i'n myfyrwyr ar bob cam o'u rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig,
Mae ein cynghorwyr gyrfaoedd yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau gyrfaoedd wedi'u teilwra drwy gydol y flwyddyn a gallwn eich helpu chi i gwrdd â'ch uchelgais gyrfa drwy amrywiaeth o weithgareddau â ffocws penodol.
Byddwch yn cael:
- apwyntiadau arweiniad gyrfaoedd
- ystod o weithdai am CVs, ceisiadau, rhwydweithiau cymdeithasol (gan gynnwys LinkedIn), cyfweliadau a diwrnodau asesu.
- digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol (o fewn meysydd sector megis addysu)
- siaradwyr gwadd proffesiyn o ystod eang o sectorau (e.e. addysgu, plismona, llywodraethu)
- lleoliadau profiad gwaith a chyngor (e.e.llywodraeth, sector elusennol, plismona)
- gweithgareddau menter
- bwrdd swyddi yn cynnwys lleoedd gwag i raddedigion, interniaethau a lleoliadau gwaith
- gwybodaeth am y farchnad lafur.
Cefnogi ein cynfyfyrwyr
Nid yw'n cymorth gyrfaol yn gorffen ar ôl i chi raddio; mae yna nifer o fanteision ar gael ar gyfer ein graddedigion ni'n unig.
Mae cyngor gyrfaol i gynfyfyrwyr ar gael hyd at dwy flynedd ar ôl graddio, yn cynnig gwybodaeth am ffeiriau gyrfaoedd, gweithdai a digwyddiadau yn ogystal â mynediad i wybodaeth gyrfaol, interniaethau a mwy.
Achrediad
Mae graddio gyda gradd meistr achrededig yn fantais sylweddol yn y farchnad swyddi. Rydym yn cynnig pedwar cwrs sydd wedi'u hachredu'n llawn.
Enw'r cwrs | Sefydliad achredu |
---|---|
Newyddiaduraeth Darlledu (MA) | Broadcast Journalism Training Council (BJTC) |
Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang (MA) | Chartered Institute of Public Relations (CIPR) |
Newyddiaduraeth Cylchgronau (MA) | Professional Publishers Association (PPA) |
Newyddiaduraeth Newyddion (MA) | National Council for the Training of Journalists (NCTJ) |
Ffynhonnell: Canlyniadau Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22, a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig (HESA). Hawlfraint Jisc 2024. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.
Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar Gaerdydd. Beth sy’n gwneud y brifddinas mor ddeniadol?