Ein lleoliad
Mae ein lleoliad yn Rhif 2 y Sgwâr Canolog yn ein gosod gerllaw cwmnïau cyfryngol lleol a chenedlaethol gan gynnwys y darlledwr BBC Cymru/Wales.
Mae ein lleoliad yn ein helpu i feithrin cysylltiadau cryfach â’r diwydiant, gan roi hwb i gyflogadwyedd myfyrwyr trwy ddarparu mynediad uniongyrchol i sefydliadau cyfryngau o bwys ym maes newyddiaduraeth, yn ogystal â’r diwydiannau creadigol a diwylliannol.

Cafodd y penseiri IBI eu comisiynu i ddylunio cynllun yr Ysgol a’i haddurno, sy’n cynnwys:
- pedair darlithfa gan gynnwys darlithfa â 300 o seddi
- pum ystafell seminar
- llyfrgell bwrpasol
- chwe ystafell newyddion
- stiwdios teledu a radio
- labordai arloesedd a chyfrifiaduron
- ystafelloedd golygu
- gofodau ymchwil ôl-raddedig
- grisiau cymdeithasol

"Mae hwn yn gyfle cyffrous, ac mae’r Ysgol yn ymdrechu i wneud yn fawr ohono er lles ein Prifysgol a’i myfyrwyr, yn ogystal ag er mwyn Caerdydd, prifddinas greadigol Cymru.”