Amdanom ni
Rydym yn un o’r sefydliadau gorau yn y DU ar gyfer addysgu a gwaith ymchwil y cyfryngau, sy'n helpu i lywio meysydd cyfathrebu, y cyfryngau rhyngwladol a newyddiaduraeth.
Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau ar wahanol lefelau gyda graddau ôl-raddedig sy’n amrywio o hyfforddiant sy’n seiliedig ar ymarfer, sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant, i raddau mwy academaidd. Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi cynnig rhagoriaeth o ran addysgu a hyfforddi, a gallwn gyfuno hyn â phortffolio ymchwil rhagorol. Rydym yn aml yn ennill gwobrau gan amrywiaeth eang o gyrff.
Mae tîm addysgu amrywiol, sy’n cynnwys academyddion profiadol ac arweinwyr yn y diwydiant sydd hefyd yn cyfrannu sylwebaeth a safbwyntiau arbenigol am waith ymchwil a digwyddiadau newyddion pynciol i’r cyfryngau cenedlaethol a blog yr ysgol, yn gyfrifol am gyflwyno’n darlithoedd.
Hefyd, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a’n gweithgareddau. Rydym yn cynnig diwylliant cynhwysol gydag amrywiaeth o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol
Ni yw cartref un o Brosiectau Ymgysylltu blaenllaw yr Is-ganghellor hefyd - Y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol. Mae'r ganolfan yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu canolfannau newyddion cymunedol yng Nghymru gan gynnig cyngor ac arweiniad i newyddiadurwyr hyper-leol yn y DU ac ar draws y byd.
Mae’r Ganolfan, a reolir gan gyn-gynhyrchydd cyfryngau cymdeithasol y BBC, Emma Meese, yn cynnig rhwydweithio, gwybodaeth a hyfforddiant i newyddiadurwyr hyper-leol a chymunedol gan gefnogi mathau newydd o newyddiaduraeth ddigidol leol ac ystyried modelau newydd, cynaliadwy ar gyfer newyddion.
Mae’r Ganolfan hefyd yn gartref i’r Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN) – corff masnach y DU ar gyfer cyhoeddwyr newyddion cymunedol annibynnol. Mae ICNN yn rhoi llais i’r sector ac yn gweithio i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd a achosir gan ddirywiad newyddiaduraeth leol draddodiadol. Ar hyn o bryd mae ICNN yn cynrychioli dros 100 o deitlau, ac mae llawer ohonynt yn dal i fod mewn print.
Mae’r Ganolfan wrthi’n datblygu platfform i unioni’r anghydbwysedd yng nghadwyn fwyd y cyfryngau cyfredol. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Fenter Newyddion Digidol Google.