Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg

Mae ein Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg Prifysgol Caerdydd sydd wedi'u hachredu gan AdvanceHE yn helpu staff i ddatblygu eu dysgu a'u haddysgu a chael cydnabyddiaeth am eu hymarfer proffesiynol.

Mae Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar staff i fod yn addysgwyr effeithiol ac maent wedi'u cynllunio i fod yn ddiddorol, yn ysgafn a chanolbwyntio ar ymarfer. Mae'r rhaglenni wedi'u cyd-ddatblygu gan ystod eang o staff a myfyrwyr i ddiwallu anghenion y rhai sy’n cymryd rhan a'r brifysgol.

Darganfyddwch fwy am y Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg

Mae cyfranogwyr yn rhannu eu barn am y rhaglenni:

Rhaglenni

Mae'r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt (saith gweithdy) ar gyfer y rhai y mae eu hymarfer yn eu galluogi i ddangos rhai agweddau ar y Fframwaith Safonau Proffesiynol. Ym Mhrifysgol Caerdydd, gallai fod ar gyfer Tiwtoriaid Graddedig ac Arddangoswyr Graddedig, ymchwilwyr/ymchwilwyr ôl-ddoethurol ar ddechrau eu gyrfaoedd sy’n addysgu rywfaint, staff y Gwasanaethau Proffesiynol sy’n cefnogi addysgu neu ddysgu (mae’r rhain wedi cynnwys gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ddigidol, staff Dyfodol Myfyrwyr, staff y llyfrgelloedd a chydlynwyr Llais y Myfyrwyr) ac arddangoswyr a thechnegwyr labordy.

Mae'r Rhaglen Cymrodoriaeth (wyth gweithdy) ar gyfer y rhai y mae eu hymarfer gyda dysgwyr yn dangos ehangder a dyfnder, sy’n eu galluogi i ddangos pob agwedd. Mae cwblhau'r Rhaglen Cymrodoriaeth a sicrhau statws FHEA yn un o ofynion y broses cyfnod prawf tair blynedd i ddarlithwyr Gradd 6 ar y llwybr Addysgu ac Ymchwil neu’r llwybr Addysgu ac Ysgolheictod. Mae'r Rhaglen Cymrodoriaeth hefyd ar gael i aelodau mwy profiadol o staff yr ysgolion academaidd (megis arweinwyr modiwlau) nad ydyn nhw wedi manteisio ar gyfleoedd o’r blaen i sicrhau cymhwyster addysgu cydnabyddedig, gan gynnwys uwch-aelodau o’r staff sydd â diddordeb. Mae llawer o staff y Gwasanaethau Proffesiynol sy'n gallu bodloni meini prawf y Gymrodoriaeth wedi llwyddo i sicrhau cydnabyddiaeth drwy’r rhaglen.

Mae’r Rhaglen Uwch-gymrodoriaeth (saith gweithdy) ar gyfer y rhai y mae eu dealltwriaeth gynhwysfawr a’u hymarfer effeithiol yn cynnig sylfaen i arwain neu ddylanwadu ar y rhai sy’n addysgu a/neu sy’n cefnogi dysgu o ansawdd uchel. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r rhai sy’n dilyn y Rhaglen Uwch-gymrodoriaeth yn amrywio’n fawr, ond maen nhw’n tueddu i fod yn Gyfarwyddwyr Rhaglenni neu’n staff academaidd/staff yn y Gwasanaethau Proffesiynol sy’n arwain prosiectau datblygu rhaglenni ar raddfa fawr, y rhai sydd â chyfrifoldebau arwain thematig mewn ysgol academaidd neu adran (er enghraifft, Uwch-diwtoriaid Personol, neu’r rhai sy’n arwain staff addysgu’r llyfrgelloedd neu staff Dyfodol Myfyrwyr), Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu, y rhai sy’n mentora’n sylweddol neu Benaethiaid Ysgolion.

Strwythur

Mae'r rhaglenni wedi'u strwythuro trwy gyfres o weithdai thematig gorfodol, ac yna cyflwyno portffolio, sy'n cefnogi cyfranogwyr i ennill cydnabyddiaeth fel Cymrawd Cyswllt, Cymrawd neu Uwch Gymrawd Advance HE. Cynhelir gweithdai yn fisol am 6-8 mis, gyda dau ddyddiad cau hyblyg ar gyfer y portffolio, cyn dyddiad cyflwyno terfynol tua 8 mis ar ôl cwblhau'r gweithdai.

Argaeledd

Mae’r rhaglenni Cymrodoriaethau yn agored i’r holl staff a myfyrwyr ôl-raddedig sy’n ymwneud ag addysgu a/neu gymorth dysgu. Gall rhain cynnwys:

  • darlithydd newydd yn dylunio eich modiwlau neu sesiynau addysgu cyntaf
  • tiwtor graddedig neu arddangoswr
  • aelod o staff addysgu neu fyfyrwyr gwasanaethau proffesiynol
  • gweithiwr gwybodaeth proffesiynol neu dechnegydd sy'n darparu gweithdai neu gymorth labordy
  • staff ymchwil gyda chyfrifoldebau addysgu
  • neu arweinydd profiadol yn cydlynu rhaglenni addysg, neu'n arwain agweddau ar addysgu a dysgu
Group photo
Tîm y Cymrodoriaethau Addysg

Gweld proffiliau'r tîm.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm Cymrodoriaethau Addysg drwy'r Academi Dysgu ac Addysgu:

Learning and Teaching Academy