Ewch i’r prif gynnwys

Teithio

Gallwch hawlio costau teithio ar gyfer eich siwrne olaf i Gaerdydd ar eich cyfer chi ac aelodau agos o'ch teulu.

Dylech wneud hyn yn y ffordd rataf posibl. Os ydych yn dymuno teithio mewn ffordd sy'n fwy costus, ni fydd eich lwfans adleoliad yn cynyddu i dalu'r costau uwch.

Bydd y Brifysgol hefyd yn talu am:

  • costau cludo bagiau ychwanegol
  • costau cludo anifeiliaid anwes o wledydd tramor a chostau cwarantîn

Os ydych chi a'ch partner angen ymweld â Chaerdydd i edrych am gartref neu ymweld ag ysgolion, gallwch hawlio am un siwrne lawn ar eich cyfer chi ac aelodau agos o'ch teulu, os yn addas. Mae hyn ar yr amod bod eich taith yn ymwneud â symud i Gaerdydd.

Os ydych yn teithio o bellter sylweddol sy'n golygu bod angen i chi aros dros nos yng Nghaerdydd, bydd y Brifysgol yn talu am lety o bris rhesymol mewn gwesty.